Cyfleon lleoliadau newydd CNC i raddedigion

At sylw’r holl raddedigion newydd neu ddarpar raddedigion! Mae gan CNC rai lleoliadau newydd cyffrous ar gael.

Ydych chi'n frwdfrydig am gadw adnoddau mewn defnydd cyhyd â phosib ac osgoi gwastraff? Ydych chi eisiau helpu i gyflawni ymrwymiadau Cymru i gyrraedd dim gwastraff a lleihau ein hallyriadau carbon erbyn 2050?

Yma, mae Kate Jones, Arweinydd Tîm CNC, Lleoliadau Rheoleiddio Gwastraff, yn egluro rolau’r lleoliadau a’u pwysigrwydd i’r sefydliad.

--

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd CNC yn cynnal deuddeg o leoliadau cyflogedig yn y timau Rheoleiddio Gwastraff gan ddechrau ym mis Medi 2023.

Lleoliadau Addysg Uwch am gyfnod penodol o 18 mis fydd y rhain o ddydd Llun 4 Medi 2023 tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025. 

Pam tîm Rheoleiddio Gwastraff #TîmCyfoeth?

Ni fu erioed amser mwy cyffrous i fod yn rhan o'r tîm Rheoleiddio Gwastraff.

Yn 'Strategaeth Mwy nag Ailgylchu' Llywodraeth Cymru, mae gennym gynllun i wireddu'r economi gylchol yng Nghymru, ac mae’n tynnu sylw at y ffaith nad yw ein llwybr tuag at economi ddi-wastraff, carbon isel erioed wedi bod yn bwysicach.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno Rheoliadau Ailgylchu newydd ar gyfer Busnesau, y Sector Cyhoeddus a'r Trydydd Sector a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob lle gwaith yng Nghymru wahanu deunyddiau ailgylchadwy yn yr un modd ag y mae'r rhan fwyaf o ddeiliaid cartrefi yn ei wneud eisoes.

Fel y corff amgylcheddol mwyaf yng Nghymru, mae gennym gylch gwaith enfawr a rôl wirioneddol bwysig i’w chwarae o ran gofalu am yr amgylchedd ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Rydym hefyd yn angerddol am helpu pobl i ddatblygu. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael pecyn hyfforddi llawn a byddwch yn cael eich mentora gan dimau ledled Cymru sy'n gyfrifol am reoli gwaith rheoleiddio gwastraff. Byddwch yn gweithio'n annibynnol ac ochr yn ochr â'n staff Rheoleiddio Gwastraff i brofi ystod amrywiol o gyfleoedd ac arferion i ddiogelu a gwella'r amgylchedd. 

Beth fydd y rolau yn ei olygu?

Bydd y lleoliadau’n hollbwysig i helpu CNC i reoleiddio’r gofynion newydd ar gyfer ailgylchu.

Drwy ddefnyddio ein Hegwyddorion Rheoleiddio, byddwch yn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio, yn ymgymryd â chamau gorfodi cymesur ac yn cyflawni nifer o fuddion yn sgil ein hymyriadau rheoleiddiol. Bydd hyn yn cynnwys ymweliadau â safleoedd, darparu cyngor ac arweiniad, cynnal gwaith ymchwilio, casglu data, a monitro ac adrodd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.

Mae lleoliadau ar gael ym mhob un o’r ardaloedd canlynol (yn eich cais, nodwch pa ardal(oedd) fyddai’n well gennych): Canolbarth Cymru; Gogledd-ddwyrain Cymru; Gogledd-orllewin Cymru; De-ddwyrain Cymru; Canol De Cymru a De-orllewin Cymru. 

Beth ydym ni’n chwilio amdano?

Rydym yn chwilio am rywun sydd â brwdfrydedd ac angerdd dros reoli adnoddau naturiol Cymru'n gynaliadwy. Byddwch ar flaen y gad yn y gwaith hwn, gan helpu i wneud effeithlonrwydd adnoddau yn rhan o ddiwylliant Cymru ac i fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd.

Mae'r lleoliadau hyn yn benodol ar gyfer y rhai sydd ar fin graddio neu sydd wedi graddio’n ddiweddar mewn disgyblaeth amgylcheddol, cynaliadwyedd neu faes cysylltiedig. 

Sut fydd y lleoliadau yn helpu amcanion ehangach CNC?

Mae'r lleoliadau'n hanfodol i'n model cyflawni rheoleiddio er mwyn sicrhau y gallwn gyflawni dyletswyddau statudol CNC a rheoleiddio cydymffurfiaeth â Rheoliadau Ailgylchu Busnesau, y Sector Cyhoeddus a'r Trydydd Sector. Maent hefyd yn rhan o'n gwaith o gynllunio olyniaeth i sicrhau bod gan unigolion brwdfrydig ledled Cymru y sgiliau a'r profiad i ddod yn Swyddogion Rheoleiddio Gwastraff yn y dyfodol.

Bydd y rôl yn cefnogi rhaglen Llywodraeth Cymru o ddiwygiadau gwastraff deddfwriaethol fel y nodir yn y strategaethau Mwy nag Ailgylchu a Sero Net.

Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i leihau llygredd a gwireddu ein gweledigaeth o weld natur a phobl yn ffynnu gyda'n gilydd fel y nodir yn Ein cynllun corfforaethol hyd at 2030. 

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Kate Jones, Arweinydd y Tîm Lleoliadau Rheoleiddio Gwastraff, ar Kate.Jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 0300 065 3979.

Rhagor o wybodaeth am y rolau a sut i wneud cais.

Ymunwch â'n gweminar i ddarganfod mwy am y lleoliadau a gofyn unrhyw gwestiynau

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru