Annog Gweithredwyr Gwastraff i gymryd camau i leihau’r risg o danau

Yn ddiweddar mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn cysylltu â Gweithredwyr Gwastraff ar draws Gogledd Cymru er mwyn eu hatgoffa i fod yn wyliadwrus a chynnal archwiliadau rheolaidd ar eu safleoedd er mwyn lleihau’r risg o dân.

Daw hyn yn dilyn tanau diweddar ar safleoedd gwastraff yn Wrecsam a Sir Fflint a olygodd fod adnoddau hanfodol yn cael eu defnyddio gan CNC, y Gwasanaethau Brys a phartneriaid.

Meddai Louise Peel, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Gwastraff CNC:

“Mae amddiffyn cymunedau a’r amgylchedd sy’n eu hamgylchynu yn hanfodol i ni, ac mae sicrhau bod ein gwastraff yn cael ei reoli’n ddiogel ac yn gywir yn rhan o hynny.
“Rydym yn gofyn i weithredwyr safleoedd gwastraff barhau i fod yn wyliadwrus yn ystod y cyfnod sych yma. Gall tanau nid yn unig achosi canlyniadau dinistriol i weithrediadau busnes ar y safle, ond gallant hefyd achosi risg o lygredd i’r amgylchedd ac i gymunedau lleol.
“Gall fod yn ofynnol i rai deiliaid trwydded gwastraff gael Cynllun Atal a Lliniaru Tân (FPMP) ar gyfer gweithrediadau a byddwn yn annog gweithredwyr gwastraff i fanteisio ar y cyfle hwn i adolygu eu FPMP yn unol â’n canllawiau ac i sicrhau eu bod wedi ymgymryd ag unrhyw wiriadau sydd wedi’u hamlinellu yn eu cynllun.”

Meddai Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru,:

“Mae’r tanau yma yn rhoi pwysau difrifol ar ein hadnoddau am gyfnod estynedig, a hynny yn ystod cyfnod pan ydym yn ceisio canolbwyntio ar leihau’r galw - ein bwriad yw gofalu bod popeth yn cael ei wneud i osgoi tanau tebyg yn y dyfodol.
“Mae’r tywydd sych ydym wedi ei gael yn ddiweddar yn golygu y gall tanau ledaenu yn sydyn iawn - ac rydym yn erfyn ar weithredwyr gwastraff i gymryd gofal ychwanegol a sicrhau eu bod yn dilyn cynlluniau perthnasol i osgoi tanau rhag dechrau.”

Cynghorir pob Gweithredwr Gwastraff i ddarllen canllawiau Cynllun Atal a Lliniaru Tân CNC. Mae’n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â meintiau mwyaf pentyrrau gwastraff a’r pellterau gwahanu a chanllawiau atal tân eraill. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am dechnegau lliniaru, megis defnyddio ardal cwarantin ar y safle a gwybod am y cynllun draenio er mwyn atal dŵr tân rhag dianc oddi ar y safle.

Er mwyn darllen canllawiau Cynllun Atal a Lliniaru Tân CNC dilynwch y linc isod - Cynllun Atal a Lliniaru Tân

Os ydych yn aelod o’r cyhoedd ac yn dymuno rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol gallwch gysylltu â llinell digwyddiadau 24 awr Cyfoeth Naturiol Cymru drwy ffonio 0300 065 3000.