Gwaith i dynnu cored Afon Terrig wedi'i gwblhau

Mae prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru i agor rhannau uchaf Afon Terrig i bysgod mudol wedi'i gwblhau.

Mae cael gwared â'r hen gored ym Mhlas Nant y Glyn, sef y terfyn uchaf ar gyfer pysgod oedd yn mudo yn Afon Terrig, wedi agor 4km o gynefinoedd a silfeydd mewn afon sy'n adnabyddus am ei phoblogaeth o Frithyllod.

Meddai Richard Pierce, Swyddog Technegol Pysgodfeydd ar gyfer CNC:

"Mae Afon Terrig yn isafon feithrin bwysig sy'n cyflenwi Afon Alyn â Brithyllod.
"Roedd y gwaith i dynnu’r rhwystr ar Afon Terrig, sef isafon fwyaf Afon Alyn, yn cynnwys gostwng y gored fesul tipyn a chodi lefel y pwll islaw i’w gwneud yn haws i bysgod fudo drwy’r dŵr.
"O fewn oriau i gwblhau'r gwaith gwelwyd Brithyllod yn llwyddo i neidio'r gored oedd wedi’i gostwng a nofio i fyny'r afon i gynefinoedd a silfeydd newydd."

Nid yn unig y mae strwythurau artiffisial mewn afonydd yn effeithio ar fudiad pysgod ond gallant amharu ar symudiad graean a darnio dalgylchoedd afonydd cyfan. Mae rhannau uchaf dalgylchoedd afonydd yn tueddu i fod yn oerach ac yn cael eu diogelu, i ryw raddau, rhag effeithiau gwaethaf newid hinsawdd, felly mae tynnu’r strwythrau hyn yn diogelu'r afon a'i hecoleg, i bob pwrpas."

Dechreuodd y gwaith yn gynnar ym mis Hydref a chymerodd wythnos yn unig i'w gwblhau ac mae'n rhan o waith parhaus CNC i archwilio mwy o gyfleoedd i adfer afonydd.