Tywysog Cymru yn ymweld â choedwig yng Nghymru i weld ceffylau’n gweithio

Prince Charles talking with horse-loggers in woods

Heddiw, 1 Gorffennaf, dechreuodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ar ei daith o amgylch Cymru, gydag ymweliad â choedwig yn ne Cymru i weld sut y defnyddir ceffylau i gwympo coed.

Roedd y Tywysog Siarl yn ymweld â choedwig Ty’n-y-Coed ger Llantrisant, sy’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae CNC yn contractio allan y gwaith o ddefnyddio ceffylau i deneuo’r coed conwydd a chael gwared â’r boncyffion heb amharu ar y coed llydanddail cyfagos.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC :

“Roedd yn bleser gennym groesawu Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru i Dy’n-y-Coed, 50 mlynedd i’r diwrnod cafodd ei arwisgo’n ffurfiol yn Dywysog Cymru gan ei fam, y Frenhines Elizabeth II. 
“Gwyliodd y Tywysog arddangosiad gan y Torwyr Coed â Cheffylau Prydain a chyflwynodd ei wobr chwe-misol - Tlws Parhaol Tywysog Cymru am Reoli Coetiroedd -  i Kate Mobbs-Morgan, sydd wedi bod yn gweithio yn y goedwig gyda’i cheffylau, i deneuo’r coed conwydd, sydd wedi bod yn atal y coed llydanddail rhag tyfu.” 

Ni all peiriannau trymion weithio yn y goedwig oherwydd gwaith mwyngloddio cynt yn yr ardal, a’r angen i gwympo coed yn fanwl gywir er mwyn osgoi achosi unrhyw ddifrod i goed oddi amgylch.

Mae’r tîm sy’n gweithio gyda’r ceffylau wedi bod yn gweithio ers gaeaf 2016 i deneuo’r coed Sbriws Norwy ac mae llawer o goed derw hynafol oedd dan gysgod coed Conwydd wedi ymateb yn dda iawn.