Atgoffa ffermwyr o’u cyfrifoldebau yn dilyn cynnydd mewn llygredd yn ystod y coronafeirws

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn atgoffa ffermwyr a chontractwyr i wasgaru a storio slyri'n gyfrifol yn ystod pandemig y coronafeirws.

Daw'r alwad yn dilyn cynnydd sydyn mewn adroddiadau o lygredd amonia yn ystod y dyddiau diwethaf, y credir eu bod yn deillio o wasgaru slyri’n anghyfrifol. Arweiniodd hyn at yr angen i gau gweithfeydd trin dŵr am gyfnodau byr o amser.

Mae CNC yn parhau i ymateb i'r adroddiadau hyn, gan weithio gyda phartneriaid i nodi a rhwystro achosion o lygredd. Bydd camau gorfodi yn cael eu cymryd os cesglir tystiolaeth sy’n dangos bwriad i lygru, neu esgeulustod o ran atal effaith ar yr amgylchedd neu seilwaith hanfodol, fel safle dŵr yfed.

Gall llygredd slyri achosi difrod difrifol i ansawdd y cyflenwad dŵr, gan dynnu’r ocsigen ohono a lladd pysgod a bywyd arall sydd yn yr afon.

Dywedodd Robert Phillips o Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Rydyn ni’n dilyn canllawiau'r Llywodraeth i wneud popeth o fewn ein gallu i arafu lledaeniad y coronafeirws, ac i ddiogelu ein staff a'r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
"Mae hynny'n golygu mai dim ond gwasanaeth gweithredol cyfyngedig yn gwneud gwaith hollol hanfodol y gallwn ni ei ddarparu. Mae ymateb i adroddiadau sylweddol o lygredd yn rhan o'r gwaith hwnnw, ond gellid osgoi galwadau o'r math yma.
"Rwy'n annog ffermwyr a chontractwyr i fod yn ofalus wrth wasgaru slyri yn y cyfnod hwn. Meddyliwch am yr effaith ar yr amgylchedd ehangach a'r bobl sy'n gorfod rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl wrth gael eu galw allan.
"Dim ond pan fydd amodau'r ddaear yn addas y dylid gwasgaru slyri ar y tir. Mae canllawiau helaeth ar gael i bob ffermwr a chontractwr ar pryd, ble a sut i wasgaru slyri'n ddiogel ac yn gyfrifol. Dyma'r dull y dylid ei ddefnyddio bob amser, ond rydyn ni’n atgoffa ffermwyr a chontractwyr unwaith eto yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Mae gan y rhan fwyaf o ffermwyr gynllun rheoli tail a ddylai gynnwys map risg sy'n nodi sut i storio slyri'n ddiogel a lle mae'n ddiogel i wasgaru tail da byw a golchion y parlwr godro er mwyn osgoi llygru a lladd bywyd dyfrol.

Dylai ffermwyr sy'n defnyddio contractwyr sicrhau eu bod hwythau’n ymwybodol o'r peryglon llygredd ar y fferm a’u bod yn defnyddio cyfraddau a dulliau gwasgaru diogel.

Mae CNC hefyd yn gofyn i'r cyhoedd adrodd am wasgaru slyri amhriodol neu arwyddion o lygredd slyri cyn gynted ag y maent yn ei weld.

Ychwanegodd Robert:

"Rydyn ni eisiau gweithio gyda ffermwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y gorau o’r maetholion gwerthfawr sydd yn eu slyri ond gan sicrhau nad yw unrhyw slyri yn niweidio'r amgylchedd ehangach.
"Mae Fforwm Rheoli Tir Cymru, sy'n cynnwys CNC, yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio i roi mwy o gymorth ac arweiniad i helpu i gynghori ffermwyr a chontractwyr. Mae gennym bwerau hefyd i erlyn y lleiafrif sy'n dal i anwybyddu'r canllawiau a llygru ein dyfrffyrdd.
"Byddwn i hefyd yn annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus ac i roi gwybod i ni ar unwaith os y byddan nhw’n gweld unrhyw arwyddion o wasgaru slyri amhriodol neu arwyddion o lygredd.
"Mae gennym ni i gyd rôl i'w chwarae o ran cadw ein dŵr yn lân ac yn iach."

Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le a bod slyri neu dail wedi mynd i nant neu afon, neu eu bod mewn perygl o wneud hynny, gofynnir i ffermwyr ac aelodau'r gymuned roi gwybod i CNC yn syth ar 0300 065 3000.

Mae'r canllawiau arferion gorau i'w gweld ym Mhennod 5 y Cod Ymarfer Amaethyddol Da sydd ar gael yn https://llyw.cymru/cod-ymarfer-amaethyddol-da.

Am ragor o gyngor ar y cymorth sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio ffoniwch 0845 600 0813 neu ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy