Cynlluniau’n datblygu ar gyfer Llyn Tegid

Mae cynlluniau’n datblygu wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) weithio i sicrhau bod llyn naturiol mwyaf Cymru, Llyn Tegid yn Y Bala, yn parhau i fod yn ddiogel yn y tymor hir.

Mae angen cryfhau argloddiau'r llyn, sy'n amddiffyn y dref rhag llifogydd, i wrthsefyll digwyddiadau eithafol, er nad oes pryderon brys.

Ni fydd yr amddiffynfeydd yn cael eu codi gan eu bod eisoes ar lefel briodol.  

Mae CNC yn gweithio gyda'r gymuned leol i gynllunio sut i wneud gwelliannau lleol eraill ochr yn ochr â'r gwaith diogelwch.

Mae syniadau hyd yn hyn yn cynnwys gwella llwybrau troed, creu mannau eistedd newydd, uwchraddio meysydd parcio, adfer cynefinoedd bywyd gwyllt a phlannu coed. 

Meddai Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru ar gyfer CNC:

“Rydym yn ymrwymo i gadw cymunedau'n ddiogel rhag llifogydd. 
“Rydym yn sylweddoli bod rhywfaint o bryder yn lleol ynghylch yr angen i gwympo rhai o'r coed sy'n tyfu yn argloddiau'r llyn i wneud y gwaith diogelwch. 
“Yn ddiweddar fe wnaethom arolygu'r coed y gellid eu heffeithio a byddwn yn diogelu a chadw coed iach, sydd â gwerth amwynder ac ecolegol uchel, lle bo hynny'n bosibl. 
“Fodd bynnag, mae rhai o'r coed y mae angen eu gwared yn cael eu heffeithio eisoes gan glefyd yr ynn. 
“Rydym yn gweithio ochr yn ochr â'r gymuned i ddatblygu prosiectau hamdden ac amgylcheddol, gan gynnwys plannu coed, ar yr un pryd â'r gwaith diogelwch hanfodol.
“Fel hyn rydym yn gobeithio lleihau'r effaith ar hyd yr arglawdd a darparu cynllun sydd nid yn unig yn ddiogel ond sy'n darparu manteision mawr i'r gymuned a'r amgylchedd.” 

Dywedodd Dilwyn Morgan, Cynghorydd Sir Gwynedd dros y Bala:

“Mae'n hollbwysig bod y gwaith diogelwch llynnoedd yn mynd rhagddo i gadw'r Bala yn ddiogel yn y tymor hir.
“Mae'r syniadau sy'n dod i mewn ar gyfer manteision ehangach y gymuned a'r dirwedd yn addawol o addawol - ac roeddwn i'n annog unrhyw un sydd â syniadau am fwy o welliannau i gysylltu â CNC.”

Mae CNC hefyd yn gweithio gyda Rheilffordd Llyn Tegid i wneud yn siŵr bod yr estyniad arfaethedig yn cael ei ddatblygu i gyd-fynd â'r cynllun hwn.

Bydd CNC yn parhau i ymgynghori â'r gymuned a bydd yn cynnal sesiwn galw heibio yn Y Bala ym mis Tachwedd 2019.

Gwneir cais cynllunio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gynnar yn 2020.

Ni ddisgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau tan Hydref 2020.