Paratoi ar gyfer cynllun llifogydd Llyswyry

Flood warning sign

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi cynigion i adeiladu amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd ar hyd Afon Wysg yn ardal Spytty yng Nghasnewydd, de Cymru.

Bydd y cynlluniau, sy'n cael eu datblygu gan yr ymgynghorwyr Arup, yn lleihau'r perygl o lifogydd i tua 200 o gartrefi, 600 o fusnesau a seilwaith mawr fel cefnffordd yr A48. 

Maent yn cynnwys codi'r arglawdd pridd presennol mewn rhai ardaloedd ac adeiladu waliau llifogydd newydd mewn ardaloedd eraill i gryfhau'r mannau gwan presennol.  

Cynigir llifddor newydd hefyd ar gyfer Corporation Road, ynghyd â darn newydd o briffordd, 450m o hyd, i wella mynediad i'r ystad ddiwydiannol. 

Mae'r ardal eisoes yn agored i lifogydd mewn rhai mannau isel yn yr amddiffynfeydd presennol, gyda’r achos mwyaf diweddar yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror. 

Ar hyn o bryd, mae CNC yn ymgynghori â phartneriaid proffesiynol ar sut y bydd yn cynnal ei asesiad amgylcheddol o'r prosiect arfaethedig, cyn ymgynghori â busnesau a chymunedau lleol yn ddiweddarach eleni. 

Dywedodd Tim England, Rheolwr Gweithrediadau, Cyfoeth Naturiol Cymru: 

"Rydyn ni wedi gweld yn ddiweddar sut y gall llifogydd achosi dinistr, gyda llawer o deuluoedd a bywoliaeth llawer o bobl ar draws y wlad yn cael eu heffeithio gan Storm Dennis ym mis Chwefror.
"Gan ystyried y cynnydd a ragwelir yn lefel y môr, mae ein modelau llifogydd yn dangos bod yr argloddiau presennol yn yr ardal hon yn debygol o fod yn is-safonol o fewn yr 20 mlynedd nesaf – gan gynyddu'r risg i dros 1,000 o gartrefi a 1,000 o fusnesau eraill yn yr ardal.
"Mae'r ystad ddiwydiannol, sy'n rhedeg wrth ochr yr afon, yn gyfrannwr allweddol i gyflogaeth ac economi Casnewydd. Yn dilyn ymchwiliadau manwl, a thrafodaethau gyda llawer o'r busnesau yr effeithir arnynt, rydym wedi datblygu cynlluniau a fydd yn lleihau'r risg am flynyddoedd i ddod.
"Rydym yng nghamau cynnar datblygiad y cynllun hwn, ond byddwn yn rhoi’r diweddaraf i bawb am y cynnydd ac rydym yn edrych ymlaen at rannu cynigion mwy manwl yn y dyfodol agos."

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Yr wythnos ddiwethaf, cyflwynais ein Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Rheoli Perygl llifogydd ac Erydiad Arfordirol gerbron y Senedd. Unwaith y bydd yn cael ei mabwysiadu, mae'r strategaeth yn amlinellu dull uchelgeisiol o fynd ati i leihau'r perygl o lifogydd ac erydiad arfordirol, ac mae'n dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod cymunedau fel Casnewydd yn parhau i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
"Mae lleihau'r risg i gymunedau yn flaenoriaeth i ni, ond mae’n rhaid hefyd inni weld cynlluniau sy'n cynnig manteision ehangach. Rwy'n falch y bydd y cynllun hwn hefyd yn diogelu cannoedd o fusnesau ac yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth, gan sicrhau manteision economaidd pellach i'r economi leol.  Bydd cynllun yn Llyswyry yn adeiladu ar y buddsoddiad blaenorol yng Nghasnewydd ac ar draws yr afon, lle rydym eisoes wedi buddsoddi £ 14m i ddiogelu mwy na 500 o gartrefi a 100 o fusnesau yng Nghrindai."

Mae CNC yn disgwyl gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y cynllun arfaethedig yn ddiweddarach eleni yn dilyn ymgynghoriad. Amcangyfrifir mai £10m fydd y gost.

Mewn mannau eraill yng Nghasnewydd, mae gwaith yn mynd rhagddo ar gynllun llifogydd Crindai, a fydd yn rhoi mwy o ddiogelwch i 660 o gartrefi a busnesau yn yr ardal. Disgwylir i'r prosiect hwn gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.