Helpwch ni i gofnodi sut mae ein cyforgorsydd yn newid

Postyn tynnu llun ar Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron. Gallwch osod eich camera neu'ch ffôn yn y ffrâm bren  a chymryd llun o'r dirwedd.

Mae prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i ymwelwyr ddod yn wyddonwyr cymunedol a chymryd rhan mewn ymchwil wyddonol go iawn a fydd yn cael ei defnyddio i greu ffilm dros amser.

Mae Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE wedi dechrau gwaith adfer ar ddwy gyforgors bwysig yng Ngheredigion - Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron a Chors Fochno, sy'n rhan o GNG Dyfi.

Mae’r prosiect eisiau i ymwelwyr â’r ddwy warchodfa gofnodi’r newidiadau adfer hyn trwy dynnu llun o un o ddwy ‘Postyn Tynnu Llun’ ar bob safle a’u rhannu gyda’r prosiect.

Bydd y lluniau'n cael eu defnyddio i greu ffilm dros amser i ddangos y newidiadau sy'n digwydd ar y safleoedd pwysig hyn.

Bydd gwaith adfer yn cynnwys creu byndiau cyfuchlin isel i wella lefelau dŵr naturiol a gwneud y cyforgorsydd yn wlypach, yn ogystal â chael gwared â phrysgwydd a rhododendron sy'n meddiannu rhai rhannau o'r gors.

Dywedodd Jack Simpson, Swyddog Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE:

“Mae prosiectau gwyddoniaeth gymunedol fel hon yn cynnig cyfle i bobl gymryd rhan mewn ymchwil wyddonol go iawn.
“Mae hon yn ffordd wych i ymwelwyr ein helpu i fonitro rhannau penodol o'r safleoedd lle’r ydym ni'n gwybod y bydd gwaith adfer yn digwydd, a'n helpu ni i gadw golwg ar newidiadau'r cynefin dros amser.”

‘Gwyddoniaeth gymunedol’ yw unrhyw brosiect neu weithgaredd lle mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn ymchwil wyddonol. Mae'n cynnwys sawl math o weithgaredd fel cwblhau arolwg natur, dadansoddi gwybodaeth a gasglwyd gan ymchwilwyr, neu rannu ffotograffau - cofnodion o anifeiliaid, planhigion neu gynefinoedd - â phobl eraill ar-lein.

I gymryd rhan, cadwch lygad am y ‘Pyst lluniau’ pan ymwelwch â’r naill safle a’r llall a dilynwch y cyfarwyddiadau. Anfonwch eich lluniau atom trwy e-bost at LIFEraisedbogs@naturalresourceswales.gov.uk neu Facebook: @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs neu Twitter @WelshRaisedBog