Dirwy o dros £3,000 i ddyn am banio aur yn anghyfreithlon

Mae dyn wedi ei gael yn euog o banio aur yn anghyfreithlon yng Nghoed y Brenin ac wedi ei orchymyn i dalu dirwyon a chostau o ychydig dros £3,000.

Daliodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) Brian Wright yn panio aur yn anghyfreithlon yng Nghoed y Brenin ar bedwar achlysur gwahanol rhwng 14 Gorffennaf - 19 Awst 2021. Ni chaniateir panio aur ar dir CNC oherwydd y difrod a allai ei achosi i ecosystem yr afon trwy gloddio graean a thynnu mwynau.

Yn dilyn y digwyddiad cyntaf, dywedodd swyddogion CNC wrth Mr Wright na chaniateir panio aur ar dir CNC ac y dylai stopio. Pe bai'n parhau, byddai CNC yn dwysau gorfodaeth yr achos.

Methodd Mr Wright â gwrando ar y rhybudd yma, gan iddo gael ei ddal deirgwaith arall cyn iddo gael ei wahodd gan Heddlu Gogledd Cymru i fynychu cyfweliad ffurfiol am ei droseddau.

Ar Ddydd Iau 26 Mai, cafwyd Mr Wright yn euog a'i ddedfrydu yn Llys Ynadon Llandudno am bob un o'r tri chyhuddiad a wynebwyd.

Meddai Dylan Williams, Rheolwr Gweithrediadau Gogledd Orllewin CNC:

“Mae’r lleoliad lle cafodd Mr Wright ei ddal yn panio aur wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig sy’n dangos ei werth cadwraeth uchel a’i wendid i unrhyw weithgaredd niweidiol.
“Gall panio aur yn anghyfreithlon gael effaith negyddol ar ecosystem yr afon. Gall y broses o gloddio gwely'r afon a glan yr afon arwain at ddifrod i blanhigion neu infertebratau a gall mannau silio pysgod gael eu difrodi. Gellir hefyd newid llif yr afon.
“Hoffwn ddiolch i Swyddogion CNC am eu gwaith ar yr achos hwn ac i Heddlu Gogledd Cymru am eu cymorth wrth erlyn Mr Wright. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y ddirwy yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn panio aur yn anghyfreithlon yng Nghoedwig Coed y Brenin yn y dyfodol, ac ar draws safleoedd arbennig eraill.”