Cynlluniau hirdymor ar gyfer Coedwig Clocaenog yn destun ymgynghoriad cyhoeddus

Mae cynllun deng mlynedd ar gyfer rheoli Coedwig Clocaenog wedi cael ei gyflwyno i ymgynghoriad cyhoeddus gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae CNC – sy’n rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru ar draws Cymru – wedi datblygu cynllun rheoli er mwyn gwella bioamrywiaeth y goedwig a’i gwydnwch hirdymor i newid yn yr hinsawdd, fel y bydd cenedlaethau’r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau’r buddion y mae’r goedwig yn eu cynnig.

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Clocaenog (FRP) yn nodi amcanion a chynigion hirdymor ar gyfer rheoli’r coetiroedd a’r coed sydd ynddynt yn y dyfodol. Mae'r cynllun yr ymgynghorir arno yn cynnwys sawl nod gan gynnwys adfer coetir hynafol a rheoli coed llarwydd heintiedig.

Mae Coedwig Clocaenog yn gorchuddio 4,126 hectar ac yn gorwedd o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Mynydd Hiraethog. Mae'r safle'n gonifferaidd yn bennaf ac yn cael ei reoli mewn ffordd sy'n cadw ac yn gwella bywyd gwyllt, yn cynhyrchu pren, yn cynhyrchu trydan, ac yn cynnig cyfleoedd hamdden i gerddwyr, beicwyr a marchogion.

Mae Coedwig Clocaenog hefyd yn defnyddio techneg rheoli coedwig prawf a elwir yn goedamaeth gorchudd di-dor. Mae'r broses hon yn cynnwys creu coedwigoedd mwy amrywiol i leihau'r risgiau a achosir gan newidiadau i'r hinsawdd yn y dyfodol.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 25 Chwefror 2022. Gall pobl ddarllen y cynlluniau yn fanwl a gadael adborth trwy canolfan ymgynghori ar-lein CNC.

Dywedodd Aidan Cooke, Uwch Swyddog Gweithrediadau Coedwigoedd CNC:

“Rydym eisiau sicrhau bod Coedwig Clocaenog yn cael ei defnyddio mewn ffordd sydd o fudd i’r amgylchedd a chynefinoedd lleol yn ogystal â chymunedau lleol. Gwyddom pa mor werthfawr yw ein coetiroedd, ac rydym eisiau sicrhau bod y bobl sy'n eu defnyddio yn cael y cyfle i roi adborth ar ein cynlluniau.
“Mae ein coedwigoedd yn cynnig cymaint o fanteision i fyd natur ac i’n cymunedau. Maent yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn argyfyngau hinsawdd a natur, yn darparu pren o ansawdd da i ni ei ddefnyddio, ac yn lleoedd pwysig i ni i gyd dreulio amser yn yr awyr agored - yn enwedig yn ystod pandemig Covid-19.
“Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i drigolion lleol roi eu barn ar y cynlluniau ar gyfer Coedwig Clocaenog ac i’n helpu i wneud yn siŵr ein bod yn gosod ac yn cyrraedd y targedau cywir ar gyfer yr ardal a chenedlaethau’r dyfodol.”

Gall trigolion chwilio am 'ymgynghoriad Cynllun Adnoddau Coedwig Clocaenog Cyfoeth Naturiol Cymru' ar unrhyw beiriant chwilio rhyngrwyd a dilyn y dolenni i'r dudalen ymgynghori.

Gall unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan ond nad yw'n gallu gweld y cynnig ar ymgynghoriad ar-lein CNC gysylltu â 0300 065 3000 a gofyn am gopi caled.

Gall preswylwyr sy’n dymuno anfon adborth drwy’r post ei anfon at: Cyfoeth Naturiol Cymru, Clawdd Newydd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2NL.

Bydd angen dychwelyd yr holl adborth a chwestiynau erbyn 25 Chwefror 2022 fan bellaf.