Ymchwiliad llygredd Llynfi yn dod i ben heb gymryd camau pellach

Mae'r ymchwiliad i achos o lygredd a ddigwyddodd yn yr Afon Llynfi ar 31 Gorffennaf 2020 wedi dod i ben ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddod i’r casgliad nad oes gobaith realistig o euogfarn.

Cafodd y digwyddiad effaith andwyol iawn ar yr afon; amcangyfrifodd asesiad CNC fod dros 45,000 o bysgod a bywyd arall yr afon wedi marw yn y digwyddiad. Mae'r ffigur hwn yn seiliedig ar allosod sampl, ac nid cyfrif gwirioneddol.

Gweithiodd tîm ymchwilio CNC yn ddiflino i ymchwilio a cheisio casglu tystiolaeth i ganfod beth ddigwyddodd ac i ddod â'r person neu'r bobl sy'n gyfrifol am lygru'r afon gerbron y llysoedd. Fodd bynnag, nid oes gobaith realistig o sicrhau euogfarn yn erbyn unrhyw gwmni neu unigolyn ac felly ni fydd unrhyw cyhuddiadau'n cael eu dwyn yn erbyn unrhyw un mewn perthynas â'r digwyddiad.

Dywedodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yng nghanolbarth Cymru: "Mae ein swyddogion wedi cael eu siomi yn fawr gan y difrod a achoswyd i Afon Llynfi gan y digwyddiad hwn ac rydym yn siomedig iawn nad ydym wedi gallu dod â'r rhai sy'n gyfrifol gerbron y llysoedd.
"Mae’r Afon Llynfi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig mewn Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae'r ffaith bod cymaint o anifeiliaid dyfrol wedi marw yn y digwyddiad yn dangos pa mor gyfoethog oedd y bywyd gwyllt yn yr afon fechan hon. Rydym yn falch bod asesiadau a gynhaliwyd gennym yn gynharach eleni yn dangos arwyddion addawol o adferiad yn yr afon.
"Rydym wedi ymchwilio pob trywydd ac wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i brofi beth ddigwyddodd, ond yn anffodus, mae'r ymchwiliad hwn bellach wedi dod i ben. Byddwn yn ystyried ailagor yr ymchwiliad os daw tystiolaeth newydd i'r amlwg. Os oes gan unrhyw un dystiolaeth o'r fath, rydym yn eu hannog i gysylltu â ni."