Dathlu harddwch corsydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gors

Mae pobl yn cael cyfle i ddysgu llawer mwy am un o gynefinoedd gwyllt prinnaf Cymru mewn digwyddiad yng nghanolbarth Cymru y mis nesaf.

Bydd Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ei Ddiwrnod Rhyngwladol y Gors cyntaf erioed.  

Ar ddydd Sul, 4 Awst bydd y prosiect yn dathlu Diwrnod y Gors yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron, un o’r cyforgorsydd mwyaf sy’n parhau i dyfu ar diroedd isel Prydain – a lle ceir mawn sydd hyd at 10 metr o ddyfnder.

Cyforgorsydd yw un o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru ac maent yn helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd drwy storio carbon, darparu dŵr yfed glân, helpu i atal llifogydd a darparu cartrefi ardderchog i fywyd gwyllt prin sydd mewn perygl.

Corsydd ar ffurf cromen yw cyforgorsydd. Maent yn ardaloedd o fawn sydd wedi crynhoi dros fwy na 12,000 o flynyddoedd a gallant fod mor ddwfn â 12 metr.

Bydd eu hadfer yn helpu i ymladd newid hinsawdd drwy greu mawn newydd i gloi mewn mwy o garbon.

Bydd Diwrnod y Gors yn cychwyn am 10yb tan 3yp a bydd stondinau amrywiol ar gael ar y diwrnod yn egluro pam y mae’r safleoedd hyn mor werthfawr, a beth yw eu cysylltiad â’r gymuned leol.

Bydd lluniaeth ysgafn yn cael ei darparu gan Sefydliad y Merched lleol am gyfraniad bychan.

Bydd dwy daith gerdded ryngweithiol yn cael eu trefnu am 10.30yb ac 1yp ar y diwrnod i roi cipolwg treiddgar o’r gors i ymwelwyr.

Meddai Rhoswen Leonard, swyddog prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE:

“Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath erioed a bydd yn gyfle rhagorol i arddangos Cors Caron i bobl leol ac i ymwelwyr a dangos pa mor arbennig yw’r safle. 
“Ymunwch â ni am ddiwrnod hwyl ac i ddarganfod pa mor hen o ddifrif yw’r gors ac i ddysgu mwy am y cynefin pwysig hwn.”

Bydd cystadleuaeth ffotograffiaeth yn cael ei lansio ar y diwrnod a gofynnir i ymwelwyr dynnu lluniau wedi’u hysbrydoli gan y gors a’r ardal leol. Yna gofynnir iddynt rannu’r lluniau ar dudalennau Facebook a Trydar y prosiect. Y llun a fydd yn cael ei ‘hoffi’ fwyaf fydd yn cael ei ddefnyddio ar daflen wybodaeth newydd y prosiect ac ar y wefan.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y prosiect dilynwch ef ar Facebook drwy chwilio am CyforgorsyddCymruWelshraisedbogs, ac ar Trydar chwiliwch am @Welshraisedbog