Patrolau ychwanegol gan CNC a’r heddlu ar safleoedd yng Ngogledd Cymru i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Bydd ymwelwyr â rhai o gyrchfannau awyr agored mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru yn gweld mwy o wardeiniaid a swyddogion heddlu allan yn patrolio’r penwythnos hwn, sydd wedi'i ysgogi gan gynnydd mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn safleoedd a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Bydd swyddogion CNC a heddlu Gogledd Cymru allan yn llu yng Ngwarchodfa Natur a Choedwig Genedlaethol Niwbwrch, a meysydd parcio Coed y Brenin a Pharc Coedwig Gwydir fel rhan o ymdrechion parhaus i atal gwersylla anghyfreithlon, taflu sbwriel a pharcio anghyfrifol ar y safleoedd.

Mae'r ymgyrch wedi'i lansio yn dilyn cynnydd yn nifer y bobl sy'n aros dros nos mewn meysydd parcio ar safleoedd CNC.

Mae gwersylla heb ganiatâd y tirfeddiannwr yng Nghymru yn drosedd sifil ac nid yw CNC yn caniatáu unrhyw fath o wersylla anawdurdodedig ar ei dir. Bydd camau gorfodi’n cael eu cymryd yn erbyn y rhai y canfyddir eu bod yn diystyru'r rheolau yn ystod patrolau yn hwyr yn y dydd ac yn gynnar yn y bore mewn safleoedd allweddol ledled Gogledd Orllewin Cymru o'r penwythnos hwn ymlaen.

Dywedodd Dylan Williams, Rheolwr Gweithrediadau CNC yng Ngogledd Cymru:

"Rydyn ni'n gwybod bod y cyfyngiadau symud wedi bod yn anodd i bawb, ond er ein bod oll yn awyddus i fanteisio ar gyfleoedd i gyfarfod ffrindiau a theulu yn yr awyr agored, rydyn ni'n gofyn i chi beidio â gadael i’ch mwynhad amharu ar natur ac ar eraill.
"Mae rhai o'r achosion hynod o wersylla anghyfreithlon, parcio anghyfreithlon a thaflu sbwriel rydym ni wedi’u gweld mewn safleoedd awyr agored ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn ofnadwy – yn enwedig i'r rhai sy'n gweithio'n ddiflino i sicrhau y gall pobl fwynhau ein safleoedd yn ddiogel.
"Mae'r math hwn o weithgarwch gwrthgymdeithasol yn gwbl annerbyniol. Gall niweidio ein hamgylchedd, ein bywyd gwyllt, y sector twristiaeth a'n cymunedau lleol, sydd i gyd yn adfer yn sgil effeithiau pandemig Covid-19. Gall y cynnydd yn nifer y faniau gwersylla a cherbydau eraill sydd wedi'u parcio ar ymylon neu mewn cilfannau hefyd achosi problemau mynediad sylweddol i'r gwasanaethau brys a rhoi bywydau mewn perygl.
"Dyma pam y byddwn ni, mewn partneriaeth â'r Heddlu, yn cymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r ymddygiad annerbyniol hwn ar safleoedd CNC yr haf hwn. Byddwn yn benderfynol a diwyro wrth gymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai sy'n torri'r rheolau yn y gobaith y bydd yn atal mwy o bobl rhag cymryd rhan yn yr un gweithgareddau amharchus yn y dyfodol."

Lansiodd CNC y Cod Cefn Gwlad ar ei newydd wedd mewn partneriaeth â Natural England a Defra ym mis Ebrill i ymateb i faterion yr adroddwyd amdanynt yn ystod y cyfnod clo, fel cynnydd mewn achosion o daflu sbwriel a chŵn yn poeni defaid.

Nod y fersiwn newydd yw helpu pawb i fwynhau parciau a mannau agored mewn ffordd ddiogel, gan eu hannog i ofalu am ein hamgylcheddau naturiol a bywoliaeth y rhai sy'n gweithio yno. Mae adran 'Hawliau a Chaniatâd' y Cod Cefn Gwlad yn nodi sut y byddai angen i ymwelwyr ofyn am ganiatâd gan y tirfeddiannwr i ymgymryd â gweithgareddau penodol, gan gynnwys gwersylla.

Ychwanegodd Dylan Williams:

"Ein blaenoriaeth erioed fu sicrhau bod cymunedau lleol yn teimlo'n ddiogel, a bod gan ymwelwyr yr hyder i ymweld â lleoliadau CNC yn y ffordd fwyaf diogel posibl.
"Wrth i fwy a mwy o bobl ystyried mynd ar wyliau yn nes at gartref eto'r haf hwn, byddwn yn parhau i annog pobl i ddilyn y Cod Cefn Gwlad, a byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i annog y rhai sydd am ymweld â chefn gwlad Cymru i weithredu'n gyfrifol drwy archebu a gwersylla mewn gwersylloedd swyddogol yn unig."

Mae'r Cod Cefn Gwlad ar ei newydd wedd i'w weld yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cod Cefn Gwlad