Tîm ymchwilio pwrpasol yn edrych mewn i achos difrifol o lygredd yn Afon Llynfi

Mae tîm ymchwilio pwrpasol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn edrych mewn i achos difrifol o lygredd a gafodd ei adrodd ar 31 Gorffennaf yn Afon Llynfi, un o lednentydd yr Afon Gwy.

Mae'r tîm yn cynnwys swyddogion amgylchedd a rheoleiddio â chefnogaeth gan dîm o ddadansoddwyr labordy, cyfreithwyr CNC, swyddogion pysgodfeydd a biolegwyr.

Mae aelodau'r tîm wedi ymchwilio i nifer o safleoedd o ddiddordeb ac wedi siarad â gweithredwyr y safleoedd hynny. Mae asesiad lladd pysgod wedi'i gynnal ac mae samplau wedi'u cymryd ar gyfer dadansoddi cemegol a biolegol. Mae aelodau'r tîm hefyd wedi siarad â physgotwyr a thrigolion lleol er mwyn cael mwy o wybodaeth er mwyn helpu i lywio'r ymchwiliad.

Dywedodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yng nghanolbarth Cymru:

"Rydyn ni'n gwybod bod pobl leol yn poeni'n fawr am yr afon ac yn gofidio'n fawr am yr effaith y mae hyn wedi'i chael ar y boblogaeth bysgod. Rydyn ni’n rhannu’r pryder hwnnw a mynd at wraidd y digwyddiad hwn yw ein prif flaenoriaeth o hyd.
"Rydym hefyd yn rhannu'r un awydd i wybod beth sydd wedi llygru'r afon ac o ble y daeth. Rydym yn gweithio mor galed ag y gallwn ac yn edrych ar bob darn o dystiolaeth i greu achos mor gryf â phosibl ar gyfer unrhyw gamau gorfodi. Mae'r pethau hyn yn cymryd amser a byddwn yn darparu diweddariadau mor rheolaidd â phosibl heb beryglu camau gorfodi yn y dyfodol.
"Mae'r llygredd a darodd Afon Llynfi wedi cael effaith hynod o ddinistriol. Rydym bellach yn hyderus bod o leiaf 10,000 o bysgod wedi marw ac effeithiwyd ar fywyd a llystyfiant ehangach yr afon hefyd. Nid yw hyn yn dderbyniol.
"Nid yn unig bod maint y digwyddiad yn ddifrifol dros ben, fe wnaeth ddigwydd mewn Ardal o Gadwraeth Arbennig a oedd yn gynefin pwysig i rywogaethau gan gynnwys pennau lletwad, lamprai a chimychiaid yr afon."

Mae dadansoddiad samplau cemegol a biolegol wedi bod yn dychwelyd o'r labordy a disgwylir mwy o ganlyniadau yn y dyfodol agos. Mae'r dadansoddiad hwn yn llywio'r ymchwiliad.

Dywedodd Jenny Phillips, Swyddog Amgylchedd CNC ar gyfer de Powys:

"Mae gan bawb sy'n gweithio ar yr ymchwiliad angerdd gwirioneddol dros yr amgylchedd; dyna pam rydyn ni'n gwneud ein gwaith. Rydym ar lawr gwlad bob dydd yn ymchwilio, holi pobl o ddiddordeb ac yn cymryd samplau i gael eu profi yn ein labordy.”

Mae'r ymchwiliad yn parhau wrth i'r tîm ddilyn nifer o opsiynau.