Lansio ymgynghoriad ar amrywio trwydded cyfleuster trosglwyddo gwastraff yng Nghwmfelin-fach

Heddiw (28 Mawrth 2022) lansiodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymgynghoriad a fydd yn para pedair wythnos ar gais i amrywio trwydded amgylcheddol cyfleuster gwastraff yn Ystad Ddiwydiannol Pwynt Naw Milltir yng Nghaerffili.

Er nad yw’r safle’n weithredol eto, mae gan y gweithredwr drwydded amgylcheddol ar hyn o bryd ar gyfer trin gwastraff amheryglus cartrefi, masnachol a diwydiannol i gynhyrchu tanwydd a adferwyd o solid a thanwydd sy’n deillio o sbwriel. Bydd y gweithgaredd hwn yn parhau heb neiwd, fel y mae yn y drwydded wreiddiol

Mae’r newid i’r drwydded yn bwriadu cael gwared o hylosgi nwy naturiol a ddefnyddir i sychu gwastraff.

Mae hefyd yn cynnig defnyddio hidlydd carbon actifedig, a fyddai'n helpu i leddfu’r arogleuon posib o'r safle.  

Cafodd y drwydded amgylcheddol bresennol ei throsglwyddo o Hazrem Environmental i'r gweithredwyr newydd Drumcastle Limited ym mis Ionawr 2022 yn dilyn y gwiriadau a'r gweithdrefnau angenrheidiol.    

Heddiw, mae CNC wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus gyda busnesau lleol a chymunedau cyfagos er mwyn caniatáu iddynt leisio eu barn am y cynnig.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am bedair wythnos tan 25 Ebrill ac mae'n gyfle i bobl leisio unrhyw bryderon mewn perthynas â'r newidiadau arfaethedig.

Meddai Jon Goldsworthy, sy’n Rheolwr Gweithrediadau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

Rydym yn gwybod bod gan bobl amrywiaeth o safbwyntiau ar y cyfleuster gwastraff yn Ystad Ddiwydiannol Pwynt Naw Milltir.
Mae rhoi llwyfan i fusnesau a chymunedau fynegi a rhannu'r safbwyntiau hyn yn rhan bwysig o'r broses hon ac rydym yn annog pawb sydd â diddordeb yn y newidiadau arfaethedig i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a dweud eu dweud. 
Dim ond os ydym yn hyderus y gall y cwmni wneud y newidiadau heb gael effaith andwyol ar bobl leol a’r amgylchedd y byddwn yn caniatáu’r newid i’r drwydded.

Mae'n ofynnol i CNC ganiatáu amrywiad i drwydded os gall yr ymgeisydd ddangos y bydd y safle'n cael ei weithredu yn unol â safonau priodol ac y bydd yr holl ofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni.

Mae’r ymgynghoriad yn lansio ar 28 Mawrth a bydd yn dod i ben ar 25 Ebrill.

Mae’r cais, gwybodaeth ategol a’r ymgynghoriad ar gael ar-lein: Ymgynghoriad ar gais i amrywio trwydded yng Nghyfleuster Trosglwyddo Gwastraff Pwynt Naw Milltir - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)