Rhybuddio landlordiaid masnachol i gadw llygad am droseddwyr gwastraff

Mae canllawiau newydd i helpu landlordiaid masnachol amddiffyn eu hunain rhag trosedd gwastraff wedi cael eu lansio gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae perchnogion tir a landlordiaid yn cael eu targedu’n aml gan droseddwyr sy’n rhentu unedau diwydiannol trwy dwyll ac yna’n diflannu gan adael yr adeiladau’n llawn gwastraff, ac mewn nifer o achosion, wedi’u difrodi’n strwythurol.

Mae landlordiaid yn cael eu gadael gyda biliau costus ar gyfer glanhau ac adfer, ond gallent hefyd fod â chyfrifoldeb cyfreithiol dros y gwastraff a’i waredu.

I helpu landlordiaid osgoi dioddef o ganlyniad i droseddwyr gwastraff, mae CNC wedi cynhyrchu ffilm ac wedi neilltuo tudalen ar y wefan yn amlygu’r broblem ac yn cynnig cyngor ac arweiniad.

Dywedodd Adrian Evans, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar gyfer trechu Troseddau Gwastraff:

“Mae troseddwyr gwastraff yn ceisio manteisio ar bobl fregus neu’r rhai nad ydynt yn ymwybodol o’r peryglon, ond gall landlordiaid helpu i’w hamddiffyn eu hunain trwy ddilyn canllawiau arfer dda. Mae’r rhain yn cynnwys:
“Gwneud ymchwil digonol ar bob darpar denant.
“Sicrhau bod darpar denantiaid yn darparu tystiolaeth eu bod yn meddu ar y trwyddedau a’r caniatâd gofynnol ar gyfer y gweithgareddau a fwriedir.
“Cynnal arolygiad ac archwiliad rheolaidd o’u heiddo.
“Mae troseddwyr gwastraff yn aml yn gredadwy iawn a byddant yn honni eu bod yn ymgymryd â gweithgareddau nad ydynt yn ymwneud â gwastraff gan ddefnyddio manylion adnabod a gwaith papur ffug i dwyllo landlordiaid.
“Maen nhw’n gweithredu’n gyflym, a gall llawer iawn o wastraff ymddangos ar y safle o fewn dyddiau neu wythnosau, felly rydym ni’n galw ar landlordiaid i fod yn wyliadwrus ac i gadw llygad manwl ar yr hyn sy’n digwydd ar eu heiddo.”

Dylai landlordiaid hefyd sicrhau bod cytundebau les yn cynnwys ymrwymiadau mewn perthynas â gwastraff megis:

  • Darpariaethau cytundebol cynhwysfawr yn ymwneud â gwastraff sy’n cael ei ollwng, ei storio neu’n cael ei adael gan denantiaid. Gallai hyn gynnwys bond ariannol neu warant bersonol gan gyfarwyddwyr o weithrediadau gwastraff.
  • Gofyniad i ddarparu copi o’r holl nodiadau trosglwyddo gwastraff i’r landlord (cofnod sy’n ofynnol yn gyfreithiol o symudiadau gwastraff ar y safle ac oddi ar y safle)
  • Copïau o adroddiadau cydymffurfiaeth yn dilyn ymweliadau â’r safle gan swyddogion CNC. 

Ychwanegodd Adrian:

“Yn aml, ceir arwyddion bod gweithgaredd anghyfreithlon yn digwydd ar y safle. Efallai bod mwy o symudiadau lorïau nac y byddech chi’n ei ddisgwyl am y math yna o fusnes, neu efallai bod gweithgareddau’n digwydd bob awr o’r dydd a’r nos.
“Efallai y byddwch chi’n sylwi ar arogl anarferol neu dystiolaeth o blâu o amgylch y safle, a dylech gymryd sylw o gwynion gan denantiaid eraill a allai fod wedi sylwi ar rywbeth amheus yn digwydd.

“Am ragor o fanylion, gallwch fynd i’r dudalen ganllawiau landlordiaid masnachol ar wefan CNC yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Landlordiaid masnachol: amddiffynnwch eich hun rhag trosedd gwastraff (naturalresources.wales) neu cymerwch olwg ar eein ffilm ar gyfer landlordiaid Masnachol yma

“Ac os ydych chi’n gweld unrhyw arwyddion o weithgareddau gwastraff anghyfreithlon amheus, gallwch gysylltu â’n llinell ffôn ddigwyddiadau ar 0300 065 3000.”