Dyfarnu Gwobr y Fesen Aur 2019 i ddysgwyr ifanc

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi enillwyr Gwobr y Fesen Aur eleni.

Casglodd enillwyr eleni, sef Ysgol Gynradd Albany yng Nghaerdydd, dros 80kg o fes o’r ansawdd gorau a fydd bellach yn cael eu defnyddio i dyfu mwy o goed derw lleol ledled Cymru.

Bu 44 o grwpiau addysg o bob rhan o Gymru’n cymryd rhan yn ymgyrch Miri Mes, gan gasglu dros 3 miliwn o fes a fydd yn helpu CNC i blannu mwy o goed sydd wedi’u tyfu o hadau lleol. 

Mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc fynd allan i’r awyr agored a dysgu am amgylchedd naturiol Cymru.

Dywedodd Aled Hopkin, Cynghorydd Addysg, Cyfoeth Naturiol Cymru: 

“Cafwyd ymateb gwych i’r ymgyrch eto eleni gyda dysgwyr o bob oedran yn casglu dros 1000kg o fes mewn chwe wythnos – sef digon i blannu 232 o gaeau pêl-droed yn llawn o goed derw.
“Penderfynwyd creu Gwobr y Fesen Aur i annog ein casglwyr mes i dreulio amser yn dysgu am goed derw a dewis y mes o’r ansawdd gorau inni eu tyfu. 
“Mae Ysgol Gynradd Albany yn enillydd teilwng o’r wobr, ar ôl casglu 83.5kg o fes o’r ansawdd gorau, ac mae wedi ennill detholiad o lyfrau addysgiadol a chodi dros £360 i’r ysgol.
“Rydym am ddiolch i bawb a gymerodd ran; maent nid yn unig yn ein helpu i dyfu mwy o goed derw Cymreig, maent wedi treulio amser gwerthfawr yn dysgu am yr amgylchedd naturiol hefyd.

Bu grwpiau addysgu fel Cylchoedd Meithrin, sgowtiaid ac ysgolion cynradd yn cymryd rhan, gyda mes yn cael eu casglu o diroedd ysgolion, parciau a ffermydd. 

Mae CNC yn talu hyd at £4.40 y cilogram, gan ddibynnu ar ansawdd y mes, cyn eu hanfon at feithrinfa goed Comisiwn Coedwigaeth yn swydd Gaer lle byddant yn cael eu tyfu’n lasbrennau.

Mae ailblannu hadau lleol yn helpu i leihau’r perygl o wasgaru plâu a chlefydau a all ddinistrio coedwigoedd.

Mae coed derw yn darparu cartref i fywyd gwyllt ac yn helpu i leihau effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, drwy amsugno carbon deuocsid o’r atmosffer.

Yn ogystal, gallant helpu i leihau’r perygl o lifogydd a helpu i greu mannau gwych i bobl ymlacio a mwynhau’r awyr agored.