Planhigyn iawn, yn y lle iawn

Gan Duncan Ludlow, Rheolwr Safle, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr

Dyfynnir yr ymadrodd ‘planhigyn iawn, yn y lle iawn’ yn aml gan arddwyr.

 

O gael yr amodau iawn, bydd planhigion yn ffynnu. Mae hyn yn rhywbeth nad wyf eto wedi'i gyflawni yn fy ngardd fy hun wrth i mi frwydro gyda phridd clai trwm a chi bach chwilfrydig!

Mae'r ymadrodd yr un mor berthnasol i'n gwarchodfeydd natur. Yn anffodus, fel y gŵyr garddwyr yn rhy dda, mae yr un mor wir am blanhigion y byddai'n well gennym ni ‘tase nhw ddim yn tyfu yna!

Mae yna lawer o rywogaethau sydd angen eu rheoli ar dwyni tywod Merthyr Mawr. Cyflwynwyd llawer o'r rhain yn fwriadol i'r DU fel planhigion gardd. Ond, os ydyn nhw'n dianc i'r gwyllt, gallant fygwth ein rhywogaethau brodorol a'n cynefinoedd naturiol.

Am yr 20 mlynedd diwethaf, mae rhan fawr o waith rheoli Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr wedi cynnwys rheoli a chael gwared ar helygen y môr anfrodorol (yn y llun).

Wedi'i chyflwyno'n wreiddiol i helpu i sefydlogi'r tywod noeth symudol, gwnaeth yr helygen ei gwaith yn rhy dda! Ar un adeg, gorchuddiodd y planhigyn bron i draean o'r warchodfa, gan fygwth mygu'r planhigion a'r cynefinoedd twyni oedd ar ôl.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i gael gwared ar yr helygen - er bod cyfran fawr wedi'i chlirio a’r bygythiad wedi lleihau'n fawr.

Yn anffodus, nid helygen y môr yw'r unig blanhigyn ymledol ym Merthyr Mawr. Y gaeaf hwn rydym wedi dechrau rheoli lledaeniad buddleia ar y twyni.

Efallai y byddwch chi'n synnu ein bod ni'n tynnu buddleia – sydd i’w ganfod yn aml mewn gerddi bywyd gwyllt i ddenu gloÿnnod byw a phryfed eraill (fe'i gelwir yn aml yn lwyn pili pala).

Yn wreiddiol o China ac wedi'i gyflwyno i'r DU yn yr 1800au, os na chaiff ei reoli, gall ledaenu'n gyflym a bygwth glaswelltiroedd twyni.

Weithiau cawn ein swyno gan liwiau a natur egsotig planhigion anfrodorol, gan fethu â gwerthfawrogi ein planhigion cynhenid.

Er nad ydan nhw efallai mor ysblennydd â blodau llwyni buddleia, mae nifer o flodau llai a geir mewn glaswelltiroedd twyni yn ffynhonnell neithdar gyfoethog i ieir bach yr haf a phryfed eraill.

Mae mefus gwyllt, trilliw’r twyni, teim gwyllt, corn glas a llawer mwy o rywogaethau, sy'n aml yn cael eu hanwybyddu, oll yn cyfrannu at arddangosfa liwgar yn ystod y gwanwyn a'r haf.

Felly bydd ein gwaith i reoli buddleia yn fuddiol i lawer o'r gloÿnnod byw a geir ar y twyni.

Ac nid yw problem ymledol yn gyfyngedig i rywogaethau anfrodorol.Mae olyniaeth naturiol yn golygu y gall llawer o blanhigion brodorol, os caniateir iddynt ymledu, hefyd fygwth cynefinoedd twyni a'u rhywogaethau.

Yn y gorffennol, efallai nad oedd hyn yn gymaint o broblem - pan oedd digon o ardaloedd o gynefin twyni i gynnal rhywogaethau twyni. Byddai natur ddeinamig twyni tywod yn caniatáu creu twyni tywod newydd, iau.

Heddiw, mae arwynebedd cynefin twyni tywod y DU yn llawer llai ac mae'r hyn sydd ar ôl wedi sefydlogi gydag ychydig neu ddim twyni tywod ifainc yn cael eu creu.O ganlyniad, mae angen i ni reoli'r hyn sydd ni ar ôl yn ofalus iawn.

Am nifer o flynyddoedd, mae CNC wedi bod yn torri gwair ar laciau twyni - y pantiau gwlyb - i atal helyg a bedw rhag lledaenu. Mae'r llaciau yn gartref i gyfoeth o rywogaethau gan gynnwys tegeirianau cors deheuol, tegeirianau cors cynnar, tegeirianau helleborîn y gors, a llysiau'r afal prin. 

Y gaeaf hwn, mae’r prosiect Twyni Byw wedi bod yn torri gwair ar nifer o ardaloedd o dwyni i reoli cynefin glaswelltir twyni. Mae'r torri yn ategu'r pori a wneir gan wartheg a'r boblogaeth o gwningod.

Gyda'i gilydd, mae'r prosiectau rheoli yn helpu i atal rhosyn llosg rhag lledaenu, er mwyn osgoi glaswelltiroedd rhag gordyfu, ac atal prysgwydd rhag lledaenu.

Yn f’amser yn gweithio ym maes cadwraeth, dwi wedi dysgu ei bod yn llawer haws gwneud camgymeriad na chael pethau'n iawn.Yn anffodus, gall camgymeriadau fel cyflwyno'r planhigyn anghywir i'r lle anghywir arwain at ganlyniadau dramatig a dinistriol i'r amgylchedd. A gall gymryd blynyddoedd i'w adfer.

Mae'r gwaith rheoli ym Merthyr Mawr yn ceisio cywiro rhai o'r rhain trwy gael gwared ar blanhigion ymledol cyn iddynt ddod yn broblem mor fawr â helygen y môr.

Gobeithio y gallwn ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol a'u hatal rhag digwydd eto i amddiffyn ein hamgylchedd naturiol i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru