Diwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd: Dathlu cynaliadwyedd

Y dydd Llun hwn (21 Mawrth) yw Diwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd, sef diwrnod arbennig i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr holl fathau gwahanol o goedwigoedd a’r llu o fuddion maen nhw’n eu cynnig.

Mae thema eleni’n dathlu pren a reolir yn gynaliadwy – ‘Dewiswch bren cynaliadwy er lles pobl a’r blaned’

I nodi’r achlysur, Greg Jones, un o Uwch Swyddogion Coedwigaeth CNC, sy’n sôn mwy am sut mae ein timau’n sicrhau y rheolir ein coedwigoedd a’n coetiroedd yn gynaliadwy fel y gallant barhau i fod o fudd i genedlaethau’r dyfodol.

Sicrhau bod rheolaeth gynaliadwy ar goedwigoedd yn greiddiol i’r hyn a wnawn

O’n helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy ddal a storio carbon, i ddarparu cynefinoedd gwerthfawr ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt, i dyfu a chyflenwi pren sy’n cefnogi cyflogaeth a bywoliaeth pobl yng nghefn gwlad – mae ein coedwigoedd a’n coetiroedd yng Nghymru’n chwarae rhan hollbwysig yn ein hamgylchedd a’n heconomi.

Mae pob un o’n coedwigoedd yng Nghymru’n unigryw ac rydyn ni’n rheoli pob un ar wahân i sicrhau ein bod yn gofalu amdanynt fel y gallant ddarparu’r cydbwysedd gorau posib ar gyfer pobl, yr amgylchedd, bywyd gwyllt, a’r gwaith o gynhyrchu pren yn gynaliadwy.

Ers dros 20 mlynedd, rydyn ni wedi rheoli tua 123,000 ha o goedwigoedd a choetiroedd yng Nghymru yn ôl safonau ardystio ar lefel y DU ac yn rhyngwladol. Mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (YGLlC) yn rhan o’r ystad goedwig sydd wedi’i hardystio am y cyfnod parhaus hiraf yn y byd.

Rheolir y Dystysgrif hon gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth a’r Rhaglen Cymeradwyo Ardystiad Coedwigoedd i sicrhau bod coetiroedd y byd yn cael eu rheoli yn ôl egwyddorion rheoli cynaliadwy y cytunwyd arnynt ar lefel ryngwladol.

Fel prif gyflenwr pren ardystiedig Cymru, rydyn ni’n cynaeafu tua 800,000 m3 o goed o’n coedwigoedd bob blwyddyn. Mae gan ein holl goedwigoedd gynlluniau adnoddau tymor hir yn nodi sut y bydd eu natur a’u cymeriad yn cael eu rheoli’n gynaliadwy dros y 25 i 50 mlynedd nesaf. 

Pwysigrwydd pren ar YGLlC

Mae sicrhau ein bod yn rheoli ein coetiroedd yn gynaliadwy’n darparu llu o fuddion ar gyfer yr amgylchedd a chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys:

  • Helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur
  • Gwella bioamrywiaeth, tirweddau a chynefinoedd naturiol
  • Darparu mannau deniadol ar gyfer hamdden a defnydd gan gymunedau

Mae pren yn ddefnydd adeiladu gwych gan ei fod yn ysgafn, yn gryf, yn adnewyddadwy ac yn ddefnyddiol at sawl pwrpas. Mae defnyddio pren yn ein cartrefi yn ein helpu ni i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy storio carbon yn y coed am flynyddoedd.

Unwaith y bydd safle wedi’i gwympo a bod y pren wedi gadael ein coetiroedd, mae’n mynd i felinau llifio a phrosesyddion. Yna, defnyddir yr elw a geir o werthu’r pren i ailfuddsoddi yn ein holl goedwigoedd a choetiroedd – o blannu coed newydd i greu cyfleusterau hamdden.

Beth fyddwn ni’n ei wneud yn y dyfodol?

Ar hyn o bryd, mae ein timau coedwigaeth yn ystyried cyfleoedd i annog partneriaethau cymunedol a chytundebau cadwyni cyflenwi a fyddai’n cysylltu gwaith cynhyrchu pren â phrosiectau datblygu neu adeiladu cymwys.

Bydd hyn yn ein cefnogi i ystyried gwneud mwy o ddefnydd o bren a gynhyrchir ar ystad Llywodraeth Cymru ar gyfer dibenion hir oes ym maes adeiladu er mwyn storio carbon, creu tai cymdeithasol newydd a sicrhau swyddi a sgiliau.

Bydd Contractau Gwerthiannau Cynyddol hefyd yn ein helpu i gynnig cyfansymiau o bren dros sawl blwyddyn olynol, a fydd yn ei dro yn ein galluogi i gyflwyno rhaglenni rheoli allweddol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, fel:

  • Teneuo cynnar (rhan bwysig o reoli coedwigoedd lle rydym yn lleihau dwysedd y coed mewn clwstwr i adael i goed eraill dyfu)
  • Coedwigaeth Gorchudd Di-dor
  • Cynaeafu pren ar dir serth
  • Rheoli coetiroedd llydanddail gan gynnwys Coetiroedd Hynafol a Blannwyd a Choetiroedd Lled-Naturiol Hynafol
  • Rheoli coedwigoedd gan roi sylw arbennig i hamdden.

Bydd mynediad at y gwerthiannau pren amgen hyn yn cynnwys ystyriaeth o egwyddor cyfrifyddu’r sylfaen driphlyg, y cyfeirir ati’n aml fel “Pobl – Planed – Ffyniant”, gan gydnabod y gwerthoedd amgylcheddol mae coedwigoedd Cymru’n eu cynnig i greu Cymru ffyniannus a gwydn nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Mae Gary Newman o Wood Knowledge Wales yn croesawu’r datblygiad hwn, a dyma oedd ganddo i’w ddweud:

“Mae pren yn rhoi adnodd diwydiannol carbon isel i gymdeithas. Mae defnyddio pren wrth adeiladu yn disodli deunyddiau carbon uchel fel concrit a dur ac yn storio carbon biogenig a gaiff ei ddal gan y goeden drwy gydol oes yr adeilad. At hynny, mae lleihau ein dibyniaeth sylweddol ar bren adeiladu o dramor ac adeiladu cartrefi carbon isel iach gyda phren lleol yn gam naturiol o safbwynt economaidd. Mae hyn yn arbennig o wir ar hyn o bryd gyda chadwyni cyflenwi rhyngwladol yn cael eu hansefydlogi fwyfwy gan ergydion gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol sy’n effeithio ar argaeledd a phris.”  

Dysgwch fwy am Ddiwrnod Rhyngwladol y Coedwigoedd ar wefan y Cenhedloedd Unedig 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru