Dod yn Natur Bositif 2030 – i bobl a’r blaned

Wrth i COP15 ddechrau, a gyda COP26 lai na phythefnos i ffwrdd, mae Cadeiryddion a Phrif Weithredwyr asiantaethau adfer natur swyddogol y DU yn galw am weithredu cydweithredol brys ar gyfer natur.

"Ni yw'r genhedlaeth sydd wedi etifeddu argyfwng yr hinsawdd a’r argyfwng ecolegol a ni yw'r genhedlaeth a fydd yn gorfod byw gyda'r penderfyniadau y byddwch chi’n eu gwneud heddiw. Mae gennych chi naw mlynedd i wneud y newidiadau sydd eu hangen. Mae'n rhaid i chi drwsio hyn. Ac mae'n rhaid i ni fyw gyda’r canlyniadau."  Dyma'r her a osodir yn Rhagair ein hadroddiad, Natur Bositif 2030 gan Holly, Dara, Mya-Rose ac Emily, pedwar cadwraethwr natur ifanc ysbrydoledig o bob rhan o'r DU.  Mae'n her y mae angen i arweinwyr a phenderfynwyr ledled y byd wrando arni wrth i bymthegfed Cynhadledd y Partïon (COP15) Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol agor yn swyddogol heddiw yn Kunming, Tsieina. Ac mae'r her hon yr un mor berthnasol i'r rhai sy'n paratoi ar gyfer dechrau COP26 yn Glasgow, sydd bellach bythefnos yn unig i ffwrdd ac yn cael ei galw'n 'gyfle gorau olaf' y byd i osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd.

Prin y gallai fod mwy yn y fantol. Ar lefel fyd-eang, mae dros filiwn o rywogaethau dan fygythiad o ddiflannu, ac mae gweithgareddau dynol yn dinistrio ardal o goedwig maint cae pêl-droed bob tair eiliad. Yn y DU, mae dros 40% o rywogaethau'n dirywio, mae dros 40 miliwn o adar wedi'u colli o'n hawyr dros y 50 mlynedd diwethaf, ac mae chwarter ein mamaliaid dan fygythiad o ddiflannu.

Byddai llawer o bobl yn dadlau bod colli natur yn fater moesegol a bod gyrru rhywogaethau i ddifodiant yn anghywir. P'un a ydych chi'n tanysgrifio i'r farn hon ai peidio, mae'r colledion hyn yn bwysig: mae ein heconomi a'n cymdeithas gyfan yn dibynnu ar bileri cyfalaf naturiol ac mae llawer o'r gwasanaethau ar gyfer bywyd dynol a ddarperir gan natur wedi dirywio.

Mewn gwledydd fel y DU, mae hyn yn golygu nad oes gennym system naturiol gynaliadwy mwyach sy'n gallu darparu cyflenwadau dibynadwy o ddŵr glân, puro ein aer, rheoleiddio ein hinsawdd, sicrhau ein cyflenwadau bwyd neu fod yn sail i'n hiechyd a'n lles. Yn syml, mae angen natur arnom i fyw!

Bydd agoriad COP15 heddiw yn seremonïol i raddau helaeth: oherwydd cyfyngiadau Covid-19, ni fydd y trafodaethau'n dod i ben nes bod cyfarfod wyneb yn wyneb yn bosibl, y bwriedir ei gynnal fis Ebrill-Mai 2022. Fodd bynnag, rhaid i'r oedi hwn yn y trafodaethau beidio ag oedi camau gweithredu dros natur. Gan gydnabod y brys, mae dros 85 o Benaethiaid Gwladwriaethau o bob cwr o'r byd wedi llofnodi Addewid Natur yr Arweinwyr, sy'n cynrychioli agenda uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid sut mae'r ddynoliaeth yn diogelu, yn gwerthfawrogi ac yn defnyddio natur. Mae llawer o wledydd hefyd wedi ymrwymo i ddiogelu 30% o'n tir a'n môr ar gyfer bioamrywiaeth erbyn 2030 ('30by30'). Mae yna berthynas gref rhwng ymrwymiadau Addewid yr Arweinwyr a 30by30 a’r fframwaith byd-eang drafft ar gyfer bioamrywiaeth ar ôl 2020, gan eu gwneud yn berthnasol iawn i drafodaethau COP15: rydym yn gwybod beth sydd angen ei wneud.

Mae gwledydd ledled y byd wedi gwneud llawer o addewidion ar ran natur dros y 30 mlynedd diwethaf, ond mae camau gweithredu wedi bod yn rhy gyfyngedig ac yn rhy araf. Y tro hwn, mae angen iddo fod yn wahanol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r DU wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o godi'r bar amgylcheddol ar lefel ryngwladol. Llywodraethau'r DU oedd y cyntaf i gytuno ar dargedau newid yn yr hinsawdd sy'n gyfreithiol rwymol ac mae’n ymddangos y byddwn ymhlith y cyntaf i fabwysiadu targedau cyfreithiol rwymol ar gyfer natur, gan gynnwys dod yn natur bositif erbyn 2030. Mae hyn yn hollbwysig, oherwydd mae angen rhoi’r un sylw i’n nodau natur ag a rown i’n targedau hinsawdd, yn unol â'r consensws gwyddonol bod yn rhaid mynd i'r afael ag argyfwng bioamrywiaeth ac argyfwng newid yn yr hinsawdd gyda'i gilydd; fel arall, bydd y naill a’r llall yn llithro o’n gafael.

Yn ein hadroddiad Natur Bositif 2030, nodwyd sut y gall y DU lwyddo i gyflawni ymrwymiadau Addewid yr Arweinwyr a 30x30, gan wrthdroi colled bioamrywiaeth erbyn 2030. Rydym yn tynnu sylw at enghreifftiau gwych o bob rhan o'r DU lle mae gwneud mwy o le ar gyfer natur wedi arwain at adfer bioamrywiaeth yn gyflym ar y tir ac ar y môr, gan sicrhau llawer o fanteision i bobl ar yr un pryd. Rydym yn dangos sut mae buddsoddi mewn natur yn cael ei gydnabod fwyfwy fel rhywbeth sydd o fudd i fusnes ac yn ffordd effeithiol o gyflawni canlyniadau iechyd a rhoi hwb i bob rhan o gymdeithas. Rydym yn pwysleisio pwysigrwydd croesawu atebion naturiol ar gyfer newid yn yr hinsawdd: mae adfer cynefinoedd bywyd gwyllt ar y tir ac ar y môr yn dal a storio carbon ac yn ein helpu i addasu, megis drwy leihau perygl llifogydd. Gall byd natur ein helpu i oroesi ein dyfodol ansicr o dan newid yn yr hinsawdd, ond mae ei allu i wneud hynny yn dibynnu ar ecosystemau bioamrywiol sy'n gallu gwrthsefyll y newidiadau sydd o'n blaenau.

 

Rydym yn obeithiol bod newid trawsnewidiol, cydnerth yn cyniwair yn y DU a fydd yn gwella natur yn y tymor hir, yn enwedig drwy ddiwygio cymorthdaliadau amaethyddol, adfer ecosystemau morol y DU, a datblygu marchnadoedd newydd ar gyfer cyllid preifat gwyrdd i fuddsoddi mewn natur. Fodd bynnag, rydym hefyd yn dod i'r casgliad bod y trawsnewidiadau hyn yn cael eu cyflwyno'n rhy araf i gyflawni graddfa’r newid sydd ei angen erbyn 2030. Mae hyn yn peri pryder oherwydd bydd oedi wrth weithredu yn golygu y bydd yn costio llawer mwy i ni lwyddo yn y pen draw a thros y cyfnod hwnnw ni fydd llawer o'r hyn a gollwn byth yn dychwelyd, gan amharu ymhellach ar ein hecosystemau. Rhaid inni ddechrau adfer natur nawr ac ar raddfa eang, ac rydym yn nodi naw cam gweithredu y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym, gan lywodraethau cenedlaethol a lleol, perchnogion tir, busnesau ac eraill a fyddai'n cael effaith sylweddol ar wrthdroi colled bioamrywiaeth y degawd hwn. Mae'r rhain yn seiliedig ar sylfaen dystiolaeth gref o'r hyn sy'n gweithio ac yn cynnwys sefydlu rhwydweithiau natur ar y tir ac ar y môr gyda safleoedd craidd sy'n cefnogi rhywogaethau ffyniannus, yn mynd i'r afael â llygredd aer a dŵr, yn defnyddio mwy o Atebion sy'n seiliedig ar Natur ar gyfer newid yn yr hinsawdd a heriau cymdeithasol eraill, ac yn mabwysiadu targedau natur yn eang: mae angen i fusnesau, lleoedd a phobl fanteisio ar natur a chefnu ar garbon.  Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae.

Yn y Rhagair i Natur Bositif 2030, mae lleisiau ifanc yn galw am weithredu brys, cydweithredol ar gyfer natur. Mae'n bryd i ni wrando. Mae adferiad natur o fewn ein gafael, ar yr amod ein bod yn gweithredu gyda'n gilydd, nawr.

Colin Galbraith (Cadeirydd, JNCC)

Gemma Harper (Prif Weithredwr, JNCC)

Tony Juniper (Cadeirydd Natural England)

Marian Spain (Prif Weithredwr, Natural England)

Mike Cantley (Cadeirydd, NatureScot)

Francesca Osowska (Prif Weithredwr, NatureScot)

David Henshaw (Cadeirydd, Cyfoeth Naturiol Cymru)

Clare Pillman (Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru)

Hilary Kirkpatrick (Cadeirydd, Council for Nature Conservation and the Countryside)

Paul Donnelly (Prif Weithredwr, Northern Ireland Environment Agency)

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru