Ceisiwch i fod yn Swyddog Cyswllt Coetiroedd y Goedwig Genedlaethol

Helpu Cymru i blannu'r dyfodol

Yn y blog hwn, rydym yn edrych ar gyfle cyffrous i chwech person ledled Cymru i fod yn ddod yn Swyddog Cyswllt Coetiroedd y Goedwig Genedlaethol. Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, rydym yn chwilio am chwech person brwdfrydig i fynd allan i gymunedau a helpu pobl Cymru i greu eu coetiroedd eu hunain. Gall y coetiroedd hyn ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

 

Beth yw Coedwig Genedlaethol Cymru?

Mae'r Goedwig Genedlaethol yn rhaglen hirdymor i Gymru dan arweiniad Llywodraeth Cymru
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn creu ardaloedd o goetiroedd newydd ac yn helpu i adfer a chynnal rhai o goetiroedd hynafol anadferadwy Cymru. Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith cysylltiedig sy'n rhedeg ledled Cymru, a fydd yn dod â manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Coedwig Genedlaethol sy'n ymestyn ar hyd a lled Cymru; a all ddarparu llawer o gyfleoedd drwy blannu, tyfu a diogelu coed. Coedwig sy'n cyfrannu at nodau datgarboneiddio a'r argyfwng newid yn yr hinsawdd; yn atal dirywiad bioamrywiaeth; yn gwella iechyd a lles ein pobl ac yn cefnogi gweithgarwch busnes masnachol fel cynhyrchu pren a hamdden a thwristiaeth.


Darllenwch fwy am Goedwig Genedlaethol Cymru


Yr her sy'n wynebu Cymru

Gwyddom fod ecosystemau'r blaned wedi cael eu ysbeilio ers llawer gormod o amser a bod chydbwysedd gwerthfawr natur yn newid ar gyflymder cynyddol.

Ond er mai ffenestr fach sydd gennym i greu gwahaniaeth, mae gennym amser o hyd i droi'r llanw. Oherwydd lle mae llywodraethau, grwpiau ac unigolion yn ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i amddiffyn ein hinsawdd a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, gall newid ddigwydd.

Creu coetiroedd yw un o'r pethau gorau y gallwn ei wneud yng Nghymru i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn rhan bwysig o'r gwaith o gyfrannu at yr ymateb hwnnw ac i'n helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o greu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030.

 

Sut mae'r swydd hon yn ein helpu i wynebu'r her

Fel Swyddog Cyswllt Coetiroedd y Goedwig Genedlaethol, eich gwaith chi fydd mynd allan i gymunedau a siarad â ffermwyr, cymunedau a thirfeddianwyr o bob rhan o Gymru am sut y gall coetiroedd newydd fod o fudd iddynt hwy, yr amgylchedd a chymunedau.

Byddwch yn grymuso ac yn galluogi cymunedau Cymru i ymuno â'r frwydr yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur.

Byddwch hefyd yn helpu pobl sydd am greu coetiroedd ar eu tir gyda chyngor a hwyluso ar ddod o hyd i gyllid, bodloni gofynion rheoliadol, a hyrwyddo arfer gorau ar gyfer rheoli a chreu coetiroedd.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru