Rydym yn datblygu sefydliad lle mae ein holl ymwelwyr, holl ddefnyddwyr ein gwasanaethau a’n gweithwyr yn cael eu trin yn deg, gyda pharch, a lle na chânt eu rhoi mewn sefyllfa anfanteisiol o ganlyniad i unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig canlynol: 

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhyw
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Statws priodasol neu bartneriaeth sifil
  • Hil
  • Crefydd neu gred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Prosiect cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 2021

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu tan 5 Ebrill drwy ein partner Diverse Cymru.

Rydym yn awyddus i glywed gan amrywiaeth eang o bobl o wahanol gefndiroedd.

Manylion pellach a chofrestru ar gyfer y digwyddiadau ymgysylltu
Llenwch yr holiadur ar-lein

Mae fformatau amgen o’r holiadur ar gael ar wefan Diverse Cymru.

Eich cyfle chi yw'r broses ymgysylltu hon i ddweud wrthym:

  • unrhyw beth rydych chi'n meddwl ein bod yn ei wneud yn dda o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • yr hyn y credwch y dylem ei wneud i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein holl waith
  • yr hyn y credwch y dylem ei wneud i recriwtio, cefnogi, cadw a hyrwyddo staff mwy amrywiol
  • sut y gallwn ymgysylltu mwy â chi a phobl a chymunedau amrywiol

Mae'r digwyddiadau ymgysylltu a'r holiadur ar eich cyfer chi os ydych:

  • wedi bod mewn cysylltiad â ni yn y gorffennol
  • wedi defnyddio ein gwasanaethau
  • yn gwsmer i ni
  • yn perthyn i grŵp cymunedol

Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio'r broses o ddatblygu cynllun gweithredu i’r sefydliad ar gyfer 2021 i 2024, gan nodi camau ymarferol i'n gwneud yn fwy cynhwysol ac amrywiol ac i gefnogi cydraddoldeb.

Darllenwch ein hamcanion cydraddoldeb strategol

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb

Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb yn dangos y gwaith rydym wedi'i wneud i fwrw ymlaen â'r agenda cydraddoldeb. Mae'r adroddiad yn amlinellu ein gweithgaredd ar gyfer y flwyddyn flaenorol, ein camau nesaf a chrynodeb o'n proffil gweithlu.

Adroddiad Flynyddol Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 2019-2020
Adroddiad Flynyddol Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant 2020-2021
Adroddiad blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant 2021 – 2022

Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae ein hsesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cyflwyno ein hamcanion a'n gwerthoedd ac sail tystiolaeth o sut y gall ein gwaith effeithio ar wahanol grwpiau, cymunedau a'r iaith Gymraeg.

Drwy'r asesiadau effaith hyn, gallwn rhagweld a chryfhau unrhyw effeithiau cadarnhaol rydym yn eu rhagweld tra gallwn weithio i liniaru effeithiau all fod yn adwynol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwilio am adborth oddi wrth ymwelwyr â'n prif safleoedd i ymwelwyr fel rhan o'i Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb y mae ganddo ddyletswydd i'w gyflawni o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Datganiad Polisi Cyflog Mawrth 2022

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod pwysigrwydd system gyflog sy'n gyfartal i bawb, yn briodol a thryloyw, yn cynnig gwerth am arian, ac yn gwobrwyo staff mewn modd teg ar gyfer y gwaith maent yn ei wneud. Mae'r datganiad polisi hwn yn amlinellu dull Cyfoeth Naturiol Cymru o ran cyflogau a'r berthynas rhwng cyflog gweithwyr a chyflog uwch-reolwyr.

Datganiad Polisi Cyflog Mawrth 2022

Dadansoddiad o'r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn mesur y gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog (canolrifol) dynion a menywod fesul awr, a ddangosir fel arfer gan y ganran mae dynion yn ei hennill yn fwy na menywod.

Mae ein gwybodaeth am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael ei chasglu ar 31 Mawrth bob blwyddyn ac yn cael ei hadrodd ar y Gwasanaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar .Gov i gydymffurfio â methodoleg Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) (Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau) 2017.

Crynodeb o ddata bwlch cyflog rhwng y rhywiau o fewn CNC yn 2023

31 Mawrth

Y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau

Gwahaniaeth

2016

7.8%

-

2017

5.5%

i lawr 2.3%

2018

4.8%

i lawr 0.7%

2019

5.3%

i fyny 0.5%

2020

2.5%

i lawr 2.8%

2021

2.0%

i lawr 0.5%

2022

2.3%

i fyny 0.3%

2023

2.0%

i lawr 0.3%

 

O ffigurau a gasglwyd ym mis Mawrth 2023 mae dadansoddiad yn dangos bod y bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau wedi gostwng eleni i 2.0%, gostyngiad o 0.3%. Mae hyn yn golygu bod menywod yn ennill 98c am bob £1 y mae dynion yn ei ennill wrth gymharu tâl fesul awr.

Mae ein bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau hefyd wedi gostwng eleni i 3.1% gyda gostyngiad o 3.3%. Mae hyn yn dangos bod menywod yn ennill 96.9c am bob £1 y mae dynion yn ei ennill wrth gymharu tâl fesul awr.

Mae’n bwysig nodi nad yw'r bwlch hwn yn golygu bod dynion yn cael eu talu mwy na menywod am gyflawni'r un math o rôl.

Er bod y bwlch cyflog canolrif yn dangos gwahaniaeth o (96.9c i bob £1), mae'r cyfartaledd yn dangos "ar y cyfan", nad yw'r cyflogau fesul awr yn rhy bell ar wahân (98c i bob £1). Mae sawl ffactor sy'n effeithio ar y bwlch cyflog e.e.

  • 2% o’n gweithlu yn ddynion
  • 8% o’n gweithlu yn fenywod
  • 93% o’n gweithlu gwrywaidd yn gweithio’n llawn amser, gyda 7% yn gweithio rhan amser
  • 77% o’n gweithlu benywaidd yn gweithio’n llawn amser, gyda 23% yn gweithio rhan amser
  • 60% o’n cyflogau chwarterol uchaf fesul awr yn ddynion
  • Mae mwy o ddynion na merched yn ein holl chwarteli

Er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau, rydym hefyd wedi cyhoeddi ein data ar borth adrodd GOV.UK.

Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Rydym wedi ffurfio Grŵp Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'n Bwrdd, Tîm Gweithredol, aelodau o phob un o'n 8 Cyfarwyddiaeth, yn ogystal a aelodau o'n Rhwydweithiau Staff a'r Undebau Llafur. Mae'r grŵp hwn yn cyfarfod bob tri mis i drafod materion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac unrhyw gamau sy'n codi yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn rhan annatod o bopeth a wnawn.

Mae gan aelodau o’r fforwm Dermau o Gyfrifoldeb i lynu at.

Rhwydweithiau Staff

Mae ein staff yn cael eu hannog i ddatblygu ac ymuno gyda'n rhwydweithiau mewnol sy'n derbyn cefnogaeth lawn gan y sefydliad.

Rydym yn gwerthfawrogi'r mewnbwn gan ein rhwydweithiau ac yn gwrando'n ofalus ar argymhellion. Ar hyn o bryd mae gennym 7 rhwydweith sef:

  • Calon (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol)
  • Ffrind Dementia
  • Grŵp Defnyddiwr Gynorthwyir (IT a Teleffoni)
  • Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywiol a Menywod
  • Rhydwaith Staff Mwslimaidd
  • Y Gymdeithas Gristnogol
  • Rhwydwaith Staff Niwroamrywiol

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cydraddoldeb, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn: equalities@naturalresourceswales.gov.uk

Amcanion cydraddoldeb strategol

Darllenwch ein hamcanion cydraddoldeb strategol

Diweddarwyd ddiwethaf