Pam y thema hon?


Bioamrywiaeth yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion sy'n bodoli o fewn byd natur. Mae'r fioamrywiaeth hon yn rhan hanfodol o wydnwch ein systemau naturiol (yr hyn rydym yn eu galw'n ecosystemau) a gallant fethu hebddi.

Mae gan Dde-orllewin Cymru amrywiaeth eang o gynefinoedd ac maent yn cefnogi nifer o rywogaethau gwahanol sydd o bwys rhyngwladol. Rydym yn gwybod, fodd bynnag, tra bod rhai rhywogaethau yn gwneud yn dda, fod bioamrywiaeth yn gyffredinol yn gostwng. Ceir perygl gwirioneddol, a bron yn sicr, y byddwn yn gweld gostyngiadau pellach mewn bioamrywiaeth os na fyddwn yn rhoi sylw i'r mater. Cymaint yw graddfa a brys y gostyngiad hwn mae Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng yn yr hinsawdd ac ym myd natur.

Rydym felly yn cynllunio i wneud gwelliannau i'r ffordd rydym yn defnyddio ac yn rheoli ein hamgylchedd i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Rydym yn gwybod bod cael dealltwriaeth well o'n hamgylchedd naturiol yn gallu arwain at gysylltiad gwell â’n hamgylchedd ac ymdeimlad cryfach tuag at ofalu amdano. Gallai hyn, yn ei dro, arwain at bobl yn cymryd rhan mewn prosiectau cadwraeth gweithredol a rheoli ardaloedd o fewn eu cymunedau lleol.

Pan mae ein hadnoddau naturiol (fel coed, afonydd ac arfordiroedd) mewn cyflwr da, maent yn ein darparu â mwy o fuddion naturiol. Mae'r buddion hyn yn bwysig nid yn unig ar lefel leol, ond yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Mae prif ‘heriau a chyfleoedd cenedlaethol’ y Polisi Adnoddau Naturiol y mae’r thema hon yn mynd i'r afael â nhw yn cynnwys:

  • Gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac adfer ecosystemau gwydn

  • Ymateb i fygythiad y newid yn yr hinsawdd a mabwysiadu dulliau rheoli ar lefel yr ecosystem i helpu

  • Lleihau llygredd sŵn a lefel y llygredd yn ein haer a gwella ansawdd yr aer

  • Gwella ansawdd ein dŵr a sicrhau cyflenwad digonol ohono

Bioamrywiaeth yn Ne-orllewin Cymru

Fel y gwnaethom grybwyll uchod, mae gan Dde-orllewin Cymru amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd a rhywogaethau bywyd gwyllt. Mae'n cynnwys nifer o safleoedd sydd yn bwysig yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol. Rydym ond ym mynd i allu dangos rhai o'r uchafbwyntiau yma; fodd bynnag, cedwir gwybodaeth fanwl bellach gennym (e-bost Southwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk) a'n partneriaid lleol.

Mae'r ardaloedd pwysicaf o ran natur yn cael eu diogelu'n gyfreithiol oherwydd eu pwysigrwydd a'u gwerth i’r gymdeithas. Mae'r ‘ardaloedd pwysig’ hyn yn darparu bioamrywiaeth gyfoethog a buddion lluosog i'r ardal, gan gynnwys darparu bwyd, dŵr croyw a phren, ond mae nifer mewn ‘cyflwr anffafriol’ o hyd (h.y. nid ydynt yn bodloni’r amcanion cadwraeth perthnasol). Mae safleoedd gwarchodedig yn darparu ‘hafanau diogel’ ar gyfer cynefinoedd a’r rhywogaethau maent yn eu cynnal. Mae safleoedd o'r fath hefyd yn troi'n gynyddol ynysig o ganlyniad i weithgarwch dynol, sydd wedyn yn arwain at ecosystem sy'n troi'n llai gwydn a thameidiog. Yr her felly yw sicrhau bod cynefinoedd yn cael eu hadfer a'u cysylltu fel eu bod yn gallu gweithredu'n gydlynol ac yn darparu buddion cymdeithasol ac economaidd pellach.

Mae gan y thema hon lawer yn gyffredin â'n thema rheoli tir. Heb gydweithrediad ein rheolwyr tir, ni allwn atal colli bioamrywiaeth.

 


Ffigwr Cyflwr nodwedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig asesiad diweddaraf ar gyfer ACA sy'n dod naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn ardal y De Orllewin

Rydym wedi nodi tri phwnc allweddol sy'n perthyn i'r thema hon:

1. Rydym oll yn deall pwysigrwydd a gwerth natur

Mae'r camau a gymerir gan ddinasyddion unigol, busnesau a'r llywodraeth yn aml yn dylanwadu ar natur, gan roi pwysau sylweddol ar ein hadnoddau naturiol a'n mannau agored. Mae'r bygythiadau sy'n wynebu bywyd gwyllt yn cynnwys y newid yn yr hinsawdd, llygredd dŵr a llygredd aer, colli a chwalu cynefinoedd ar gyfer datblygu, newidiadau yn y defnydd o dir, a phroblem gynyddol rhywogaethau goresgynnol, plâu a chlefydau.

Maent oll yn cael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar fioamrywiaeth. Mae felly'n hanfodol ein bod yn deall sut mae ein dewisiadau a'n gweithrediadau yn gallu cael effaith ar ecosystemau a'n bod yn ystyried natur pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau. Mae cael cysylltiad agos â natur a deall ei rôl ochr yn ochr â'n gweithgareddau yn hanfodol.

Unigolyn yn dal broga

2. Gwella cysylltedd rhywogaethau a chynefinoedd

Mae cyflawni ecosystemau gwydn wrth wraidd Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru). Bydd hyn yn sicrhau bod ein bywyd gwyllt yn cael ei gysylltu trwy gynefinoedd cysylltiedig. Mae ystyriaethau eraill yn cynnwys amrywiaeth, graddfa, cyflwr a hyblygrwydd pob cynefin fel ein bod yn gallu gweld pa mor wydn ydynt a pha mor dda y maent yn gallu addasu i newid. Mae angen i ni weithredu nawr er mwyn sicrhau bod cynefinoedd yn cael eu cysylltu'n lleol ac ar raddfa tirwedd er mwyn sicrhau’r ecosystemau gwydn hyn.

3. Mae gennym arbenigedd priodol wrth law a data da ar flaenau ein bysedd er mwyn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus

Perygl allweddol ar gyfer rheoli ein hadnoddau naturiol yn y dyfodol yw sicrhau bod digon o arbenigedd a chapasiti ar gael i gyflenwi'r camau gweithredu sydd eu hangen. Mae rheoli safleoedd o bwys allweddol. Mae hefyd arnom angen i sicrhau bod gennym ddigon o ddata ystyrlon fel y gallwn wneud penderfyniadau gwybodus. Ceir pryder y bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud â data annigonol yn y dyfodol. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn casglu data newydd, ac yn craffu data presennol, fel bod unrhyw benderfyniadau ynglŷn â rheoli yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

Paentiad o eog yn llamu gan David Miller

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Rhan allweddol o’r gwaith o ddatblygu’r Datganiad Ardal hwn oedd ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ac rydym yn dweud mwy am hyn yn yr adran nesaf.

Yn yr adran hon, rydym wedi nodi ‘sut olwg sydd ar lwyddiant’ fel cyfres o ddatganiadau yr hyn ddywedoch wrthym sy'n adlewyrchu'r consensws cyffredinol o'n sesiynau ymgysylltu; cynhyrchodd y sesiynau hyn lawer o syniadau a gwybodaeth ac mae'r canlynol yn cynrychioli crynodeb yn unig o'r cyfleoedd sydd o'n blaenau, lle cafwyd cytundeb cyffredinol ymysg nifer o randdeiliaid. Os ydych yn teimlo ein bod wedi colli rhywbeth, peidiwch â phoeni, rydym am barhau â'r trafodaethau rydym wedi'u dechrau. Gweler yr adran ar ddiwedd y thema hon, sy'n rhoi manylion ynglŷn â sut y gallwch barhau i fod yn rhan o'r broses hon.

Dywedoch wrthym fod addysg amgylcheddol a chyfathrebu yn allweddol er mwyn gallu newid ymddygiadau pobl

Os yw pobl yn gwybod ac yn deall mwy am eu hamgylchedd, maent yn fwy tebygol o ddatblygu newidiadau mewn ymddygiad sydd yn para'n hir ac sy'n gadarnhaol. Mae'n angen i ni ymgysylltu â phob oedran a sector er mwyn hyrwyddo'r ymddygiadau hyn. O blant ysgol i annog busnesau i fod yn fwy cynaliadwy, mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae.  Trwy weithio gyda'r sector addysg, busnesau a'r sector cyhoeddus, gallwn alluogi cymunedau i wneud gwahaniaeth ymarferol drwy weithgareddau fel gwirfoddoli, rheoli tir a dod yn ddefnyddiwr sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Trwy hyn, gallwn hefyd ymgorffori diwylliant lleol a synnwyr o dreftadaeth.

Pobl yn cynnal arolwg o wely afon am infertebratau.Llun gan Jerry Griffiths

Dywedoch wrthym y dylai datblygiadau newydd a phresennol fanteisio ar yr amgylchedd naturiol a’i wella

Mae'r system gynllunio, yn ystod camau'r Cynllun Datblygu Lleol ac wrth gynllunio ceisiadau unigol, yn gyfle allweddol ar gyfer gwella bioamrywiaeth. Mae angen i bob sefydliad osod bioamrywiaeth wrth wraidd cynllunio (fel Strategaeth Seilwaith Gwyrdd Abertawe) a chydnabod gwerth gwirioneddol bioamrywiaeth ac nid y safleoedd a rhywogaethau sy’n cael eu diogelu o dan y gyfraith yn unig.

Gall llygredd golau a sain gael effaith niweidiol ar ein hiechyd a'n bywyd gwyllt. Mae angen i ni weithio gydag awdurdodau lleol, busnesau a chymunedau i leihau effaith y mathau o lygredd hyn a hyrwyddo goleuadau sydd wedi'u cynllunio'n dda ar gyfer budd twristiaeth a bioamrywiaeth (yn benodol yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr / Dyffryn Clun).

Dywedoch wrthym y byddai defnydd o dir gwledig yn gwella bioamrywiaeth os bydd natur wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau

Mae hyn yn gysylltiedig hefyd â'n thema rheoli tir ac mae'n gofyn inni, wrth ystyried unrhyw gynlluniau Rheoli Tir yn Gynaliadwy newydd, ystyried pwysigrwydd planhigion a pheillwyr mewn tir âr sy'n gyfoethog o ran rhywogaethau ar raddfa tirwedd. Yn ogystal â chamau gweithredu penodol, dylid ystyried dynodiadau graddfa tirwedd fel B-lines Buglife ac Ardaloedd Infertebratau Pwysig.  Mae sefydlu lefelau pori priodol ar gyfer rhai o'n cynefinoedd mwyaf bregus yn hanfodol.

Dywedoch wrthym y dylai'r sector cyhoeddus reoli'r tir y mae'n berchen arno’n well, a dylai'r cyllid fod yn fwy cynaliadwy

Mae angen arbenigedd a gwybodaeth ar sefydliadau sector cyhoeddus llai (fel cynghorau cymuned) er mwyn iddynt allu rheoli eu hasedau mewn modd sy'n gyfeillgar i natur. Mae rhwydweithiau fel Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus neu Ystadau Cymru yn cael eu cydnabod fel mecanweithiau cyflenwi allweddol.

Mae angen ymgorffori natur o fewn cytundebau caffael a rheoli tir ac mae angen cyfathrebu cyhoeddus effeithiol lle mae newidiadau yn weladwy iawn.

Dylai polisïau ar gyfer taliadau grant adlewyrchu mathau gwahanol o reoli coetir – fel prysgoedio, creu llennyrch a theneuo. Mae hyn oherwydd bod angen lefelau gwahanol o gyllid arnynt a dylai hyn gael ei ymgorffori o fewn unrhyw gyllid neu gynlluniau Talu am Wasanaethau Ecosystemau (TWE) yn y dyfodol.

Dywedoch wrthym fod camau gweithredu yn fwy effeithiol pan ydym yn gweithio gyda'n gilydd, a dylai sefydliadau ddefnyddio dull cydweithredol

Mae grwpiau a phartneriaethau cydweithredu amgylcheddol lleol yn fecanweithiau cyflenwi allweddol. Gellir eu defnyddio i greu deialog well rhwng cymunedau, busnesau, rheolwyr tir a chyrff cyhoeddus – mae angen i ni sicrhau bod y rhain yn cael eu hariannu a'u cydlynu'n gywir fel eu bod yn darparu dull cyflenwi.  Mae angen cydlyniant ar bynciau allweddol (fel clefyd coed ynn) i ddarparu dull ‘ardal gyfan’ sy’n fwy cydlynol.

Mae angen i ni barhau i fonitro cyflwr safleoedd allweddol a rhannu gwybodaeth er mwyn targedu gwelliannau amgylcheddol. Bydd defnyddio gwybodaeth y cyhoedd a'u cyfranogiad yn sicrhau ein bod yn casglu'r data gorau wrth gynnwys ystod eang o arbenigedd.

Dywedoch wrthym fod angen i gynefinoedd a rhywogaethau fod yn fwy cysylltiedig ac mewn cyflwr gwell

Ceir nifer helaeth o gyfleoedd ar gyfer cysylltu (ac adeiladu gwydnwch) ein rhywogaethau a'n cynefinoedd trwy gydol De-orllewin Cymru. Nid oes modd i ni nodi'r holl gyfleoedd sydd ar gael yma; fodd bynnag, ceir rhai themâu crynodeb allweddol.

  • Mae angen i ni ystyried y darlun mwy wrth ystyried rheoli dalgylchoedd afonydd. Mae afonydd yn darparu cyfleoedd sylweddol ar gyfer cysylltu cynefinoedd. Mae hyn yn cynnwys coetiroedd a glaswelltiroedd o fewn eu cymoedd, yn ogystal â physgodfeydd a mamaliaid dŵr croyw. Byddwn yn defnyddio'r ‘dalgylchoedd â chyfleoedd’ (Bae Abertawe, afon Cleddau, ac afon Teifi yn Ne-orllewin Cymru) sydd wedi eu dewis fel rhan o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol. Hoffem gefnogi adfer a chynnal cynefinoedd corsydd a ffeniau, yn arbennig rhai Sir Gaerfyrddin, Mynydd Preseli a Chors Crymlyn / Pant y Sais

  • Rydym yn defnyddio dull ‘y goeden gywir yn y lle cywir’ i reoli coetiroedd. Mae cymoedd ein hafonydd yn darparu cyfle gwerthfawr i ni ar gyfer cynyddu coetiroedd cynhenid sy'n agos at ymylon arfordirol a hoffem i’r ffocws fod ar goetiroedd unigol. Mae coed hynafol a hynod yn elfen allweddol o fioamrywiaeth coetiroedd a dylid eu diogelu

  • Mae gan Dde-orllewin Cymru nifer o boblogaethau o ystlumod a phathewod o bwys cenedlaethol a dylid rheoli eu cynefinoedd coetir er mwyn gwella sut mae'r rhywogaethau hyn yn cysylltu â’i gilydd (ardaloedd fel Gŵyr, Sir Benfro a Margam ar gyfer ystlumod pedol lleiaf ac ystlumod pedol mwyaf)

  • Dylem ddefnyddio dull graddfa tirwedd (er budd bywyd gwyllt, pobl a'r economi) i adfer glaswelltiroedd (e.e. ar gyfer glöyn byw britheg y gors yng Nghastell-nedd Port Talbot, Penrhyn Gŵyr, dalgylch afon Llwchwr, ardaloedd gorllewinol Bannau Brycheiniog, dyffryn Tywi a blaenau afonydd Cleddau)

  • Mae angen i ni gefnogi rhywogaethau o amffibiaid pwysig yn well i'w helpu i gysylltu â chynefinoedd cyfagos er mwyn bridio a phoblogi ardaloedd newydd (fel yn Llandarcy, Margam, Cynffig, Penrhyn Gŵyr a Sir Gaerfyrddin)

  • Mae rheoli pori ar rosydd ein hucheldiroedd yn chwarae rôl bwysig er mwyn cael mwy o fioamrywiaeth (fel Mynydd Preseli, Cwm Doethïe – Mynydd Mallaen, Graig Fawr (Pontarddulais), Mynydd Du, uchdeldiroedd Cwm Egel a Mynydd y Betws)

  • Mae'r ardaloedd lle rydym yn byw yn gallu darparu coridorau natur gwerthfawr ar ein cyfer. Mae hyn yn cynnwys targedu’r gwaith o blannu rhywogaethau cynhenid a chysylltu cynefinoedd gerllaw (fel twyni a glaswelltiroedd) lle mae rhywogaethau yn ffynnu a lledaenu. Roedd awgrymiadau yn cynnwys creu coridorau heb olau sy'n gyfeillgar i ystlumod a chynyddu mannau glas fel pyllau

  • Mae'r ymyl arfordirol yn bwysig ar gyfer De-orllewin Cymru ac mae angen i ni sicrhau bod amgylcheddau twyni tywod yn cael eu hailbywiogi (a'u cysylltu), nad yw glaswelltiroedd ar ben clogwyni yn troi'n dameidiog a'u bod yn cael eu pori'n briodol, a bod morfeydd heli yn cael eu rheoli mewn modd sensitif

  • Mae'r amgylchedd morol yn bwysig iawn ar gyfer De-orllewin Cymru gan fod cyfleoedd i leihau aflonyddwch mamaliaid ac adar y môr, lleihau llygredd golau, a chysylltu pobl â’r amgylchedd morol (e.e. dynodi'r arfordiroedd oddi ar Benrhyn Gŵyr a Bae Abertawe fel ‘parc morol cenedlaethol’).

 Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Wrth ddatblygu'r Datganiad Ardal hwn ein nod oedd gweithio ar y cyd a chynrychioli safbwyntiau a syniadau ein holl randdeiliaid yn Ne-orllewin Cymru. Ein nod oedd eich cynnwys chi i helpu nodi'r risgiau allweddol rydym yn eu hwynebu wrth reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn ogystal â'r cyfleoedd.

Mae hyn wedi gofyn am ffordd wahanol o weithio.

Rydym wedi cynnal ystod eang o weithgareddau ymgysylltu, gan gynnwys gweithdai cynllunio targedig ag arbenigwyr dethol a gweithdai amlsector mwy. Mynychwyd yr olaf yn dda ac roeddent yn cynnwys cynrychiolwyr etholedig, grwpiau cymunedol a chyrff anllywodraethol amgylcheddol, yn ogystal â swyddogion o'r sector cyhoeddus. Rydym hefyd wedi sicrhau bod grwpiau cynrychioliadol (fel undebau ffermio, cymdeithasau genweirio ac ati) wedi'u cynnwys. Mae'r sector busnes wedi'i gynrychioli'n bennaf gan ddiwydiannau mwy.

Mae cymaint o sectorau gwahanol â phosib wedi'u cynnwys er mwyn dal yr ystod ehangaf o safbwyntiau ac arbenigedd. 

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn fewnol sy’n datblygu Datganiadau Ardal Canol De Cymru a Chanolbarth Cymru a’r Datganiad Ardal Forol i sicrhau bod camau gweithredu yn cysylltu lle bo hynny'n briodol. Yn benodol, mae'r parth arfordirol a'r amgylchedd morol yn bwysig iawn i ni yn Ne-orllewin Cymru ac rydym yn cydnabod bod yr hyn sy'n digwydd ar y tir yn aml yn cael effaith ar y môr ac i'r gwrthwyneb.

Beth yw'r camau nesaf?


Mae angen eich cefnogaeth barhaus arnom er mwyn datblygu'r cyfleoedd a'r camau gweithredu a nodwyd gennym yn gynt yn yr adran hon. Byddwn yn parhau i gynnal ein sgyrsiau â chi o ran y ffordd orau o ddatblygu hyn – o ran cyflenwi ac o ran mireinio'r manylion lle mae angen rhagor o waith; mae hyn yn debygol o olygu gwaith â mwy o ffocws ar themâu penodol neu o amgylch ardaloedd daearyddol penodol (e.e. y dalgylchoedd â chyfleoedd).

Felly, rydym yn annog ein holl randdeiliaid, presennol a newydd, i gymryd rhan – ceir rhagor o fanylion ynglŷn â sut i wneud hyn yn yr adran nesaf.

Trwy gydol y thema hon, ceir ardaloedd clir y gwnaethoch ddweud wrthym eu bod yn bwysig ar gyfer gweithredu ymyriadau effeithiol er mwyn gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac er mwyn ei gwella. Mae'r rhain yn cynnwys gwella cyflwr a chysylltedd cynefinoedd a rhywogaethau, defnyddio'r fframwaith cyfreithiol (cynllunio a dynodi), addysg, a rhannu cyngor ac arbenigedd.

Y camau nesaf:

Gwella cysylltedd a chyflwr cynefinoedd a rhywogaethau

  • Gweithredu prosiectau cadwraeth ar raddfa fawr a datblygu cynigion ar gyfer mentrau yn y dyfodol, gyda chyllid grant wedi'i alinio i’r canlyniadau hyn

  • Mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig dynodedig fel Bae ac Aberoedd Caerfyrddin, cynyddu maint y forfa heli a chyflawni gwelliannau ehangach i dwyni tywod

  • Cynyddu rhwydweithiau o goetiroedd cynhenid. Annog gwaith i gadw a rheoli coed hynafol a hynod mewn modd sensitif, yn ogystal ag adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru

  • Fel rhan o'n dull gweithredu ar sail dalgylchoedd, ailnaturoli cynefinoedd afonydd er budd pysgodfeydd a gweithio gyda rheolwyr tir i gysylltu cynefinoedd sy'n addas ar gyfer anifeiliaid sy'n byw mewn dŵr croyw

  • Defnyddio dull graddfa tirwedd i adfer cysylltedd cynefinoedd a rhywogaethau glaswelltiroedd, fel cyflwyno pori tymhorol traddodiadol, gwella llwybrau hedfan, a phlannu yng Nghastell-nedd Port Talbot, Penrhyn Gŵyr, dalgylch afon Llwchwr, ardaloedd gorllewinol Bannau Brycheiniog, dyffryn Tywi a blaenau afonydd Cleddau

  • Adfer a chynnal cynefinoedd corsydd a ffeniau, yn arbennig rhai Sir Gaerfyrddin, Mynydd Preseli a Chors Crymlyn / Pant y Sais

  • Gweithio gyda'r trydydd sector, busnesau a chymunedau i leihau aflonyddwch mamaliaid morol, lleihau llygredd golau o gymunedau arfordirol a diwydiant, a chysylltu pobl â'r amgylchedd morol

  • Gweithio gydag awdurdodau lleol i godi proffil a diogelu safleoedd ecolegol bwysig gan gynnwys y rhai heb unrhyw ddiogelwch cyfreithiol a pharhau i ddynodi'r safle yn unol â chylch gwaith CNC

Cefnogi eraill er mwyn sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei hystyried yn briodol wrth wneud unrhyw benderfyniadau

  • Yn gysylltiedig â'n thema rheoli tir, gweithio gyda gwneuthurwyr polisi a thirfeddianwyr i sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i gwella'n briodol trwy arferion rheoli tir gwledig, yn arbennig yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro

  • Darparu cyngor effeithiol sy'n ymateb i gynllunio datblygu lleol a strategol trwy sicrhau bod cynlluniau a cheisiadau yn ddigon cadarn yn ecolegol i adlewyrchu gwerth gwirioneddol bioamrywiaeth

  • Gweithio gyda chyrff anllywodraethol, busnesau a'r sector addysg i ymgorffori ymddygiadau amgylcheddol sensitif o fewn cymunedau ac annog defnydd hamdden ac addysgiadol o goedwigoedd a gwarchodfeydd natur sy'n eiddo'r cyhoedd

  • Rhannu arbenigedd a gwybodaeth er mwyn rheoli asedau'r sector cyhoeddus (fel tir cyngor cymuned) mewn modd sy'n gyfeillgar yn ecolegol, gan ddefnyddio'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a rhwydweithiau eraill fel Un Llais Cymru

  • Defnyddio'r Datganiad Ardal yn y dyfodol fel ffynhonnell o wybodaeth ar gyfer pob prosiect amgylcheddol sy'n digwydd yn yr ardal ac fel offeryn cyfathrebu a gwybodaeth hefyd

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Mae ein hamgylchedd yn dibynnu ar ecosystemau sy'n gweithredu – heb amgylchedd iach sy'n ffynnu, ni allwn elwa o'r gwasanaethau y mae'n gallu eu darparu. Mae'n glir o'r dystiolaeth fod bioamrywiaeth yn gostwng ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae. Trwy sicrhau bod ein cynefinoedd a'n rhywogaethau yn wydn, gallwn fwyafu'r buddion maent yn eu darparu.

Mae angen dull cydweithredol integredig i gyflawni unrhyw gamau gweithredu, gan adlewyrchu egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac ymgorffori'r pum ‘ffordd o weithio’ o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Ein gweledigaeth ar gyfer De-orllewin Cymru

  • Bod ymddygiadau amgylcheddol sensitif a chyfrifol yn cael eu hymgorffori o fewn ein holl gamau gweithredu a'u bod yn rhan allweddol o addysg ar bob lefel

  • Bod datblygiadau sydd wedi'u cynllunio mewn modd sympathetig yn gwneud defnydd llawn o’r rhywogaethau a'r cynefinoedd o'u hamgylch ac, mewn ardaloedd adeiledig, yn gostwng yr effeithiau maent yn eu cael (e.e. llygredd golau)

  • Bod cynefinoedd a rhywogaethau yn dod yn fwy gwydn i newidiadau trwy gynyddu cysylltedd a gwella'r amgylchedd lleol. Yn Ne-orllewin Cymru, mae hyn yn cynnwys (ond nid yw'n gyfyngedig i) ailnaturoli afonydd (a choridorau ar gyfer mamaliaid dŵr croyw), rhagor o frigdwf coetiroedd cynhenid fel rhan o'r goedwig genedlaethol, cysylltu poblogaethau o ystlumod ac ymlusgiaid o bwys cenedlaethol, cael cynefinoedd pathewod llai tameidiog, adfer glaswelltiroedd ar raddfa tirwedd, pori ucheldiroedd yn briodol, a chael systemau twyni deinamig

  • Bod cynefinoedd morol ac arfordirol yn cael eu gwerthfawrogi a'u mwynhau’n gyfrifol gan gymunedau ac ymwelwyr

  • Cynlluniau ariannu a rheoli cynaliadwy ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau arbennig a gwarchodedig

Sut all pobl gymryd rhan?


Y thema hon yw dechrau'r daith yn unig gan y byddwn yn gweithio gyda phobl i wella rheolaeth o Dde-orllewin Cymru. Os hoffech fod yn rhan o'r broses, cysylltwch â ni. Fel arall, anfonwch e-bost uniongyrchol atom yn: Southwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhowch wybod

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?



Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?


Eich manylion

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf