Pam y thema hon?


Mae newid yn yr hinsawdd yn un o'r materion mwyaf difrifol yn y byd sydd ohoni os nad y mater MWYAF difrifol un. O batrymau tywydd sy'n newid ac sy'n bygwth ein prosesau cynhyrchu bwyd, i lefelau môr sy'n codi a'r posibilrwydd o lifogydd ar raddfa drychinebus, mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn bellgyrhaeddol ac yn digwydd ar raddfa fyd-eang. Mae'n rhaid cymryd camau llym nawr, er mwyn lleihau achosion ac effeithiau negyddol newid yn yr hinsawdd, yn ogystal ag addasu i'r newidiadau a fydd yn digwydd.  Bydd oedi wrth weithredu nid yn unig yn gwneud y gwaith hwn yn fwy anodd a chostus, ond gallai hefyd fod yn rhy hwyr.

Mae wynebu'r her yn gofyn am weithredu ar y cyd ar lefel fyd-eang, rhyngwladol a lleol. Ymateb Llywodraeth Cymru oedd cyhoeddi bod argyfwng hinsawdd yn 2019, gan ddatgan:

“Does yr un wlad yn y byd wedi llwyr sylweddoli'r her ond yn union fel y gwnaeth Cymru chwarae rhan flaenllaw yn y chwyldro diwydiannol cyntaf, rwy'n credu y gall Cymru fod yn esiampl i eraill o'r hyn y gall twf amgylcheddol ei olygu.”  (Lesley Griffiths, Prif Weinidog)

Mae Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddod yn garbon niwtral yn ei sector cyhoeddus erbyn 2030, ac mae'r polisïau sydd yn y cynllun Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel yn helpu i fynd i'r afael â'r broblem.

Mae'r Datganiad Ardal hwn yn ystyried y cyfraniadau a'r newidiadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud fel unigolion, cymunedau a sefydliadau yn ne-orllewin Cymru.

Mae'n glir bod newid yn yr hinsawdd yn fater trawsbynciol gan fod llawer yn gyffredin rhyngddo a themâu eraill y Datganiad Ardal hwn:

  • Mae newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn deillio o'r un gweithgareddau economaidd-gymdeithasol ac mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy mewn ffordd integredig

  • Gall bioamrywiaeth ei hun gyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Mae angen i ni sicrhau na fydd unrhyw weithgareddau a wneir i leihau nwyon tŷ gwydr eu hunain yn arwain at ddirywiad mewn natur

  • Gall y ffyrdd yr ydym yn defnyddio a rheoli ein hamgylchedd gael effaith ddramatig ar allyriadau carbon. Gallant hefyd roi cyfleoedd i ni storio carbon yn naturiol

  • Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn peri risgiau sylweddol i'n hiechyd, yn arbennig i bobl sy’n agored i niwed (er enghraifft gwres eithafol)

Wrth ymateb i'r thema hon, rhaid i ni gydnabod y cysylltiadau hyn ac anelu at ddarparu buddion lluosog sy'n helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Er enghraifft, mae cynyddu gorchudd coetir yn agos at gymuned nid yn unig yn cynyddu bioamrywiaeth, iechyd cymdeithasol a llesiant, ond mae hefyd yn galluogi coed i weithredu fel 'dalfeydd carbon', gan amsugno dŵr gormodol a lleihau'r hyn a elwir yn 'effaith ynys wres drefol', sef yr hyn sy'n digwydd pan fydd ardal drefol yn troi'n gynhesach o lawer nag ardaloedd amgylchynol oherwydd gweithgareddau dynol. Yn anhygoel, dengys bod coeden ffawydd 80 troedfedd o daldra yn gallu amsugno allbwn carbon deuocsid dyddiol dau gartref teuluol.

Prif ‘heriau a chyfleoedd cenedlaethol’ y Polisi Adnoddau Naturiol y mae'r thema hon yn mynd i'r afael â nhw:  

  • Newid hinsawdd trwy ddulliau sy’n seiliedig ar ecosystemau

  • Gwella'r aer a mynd i'r afael ag ansawdd sŵn

  • Mwy o ynni adnewyddadwy

Mae rhai o'r ystyriaethau allweddol eraill wrth fynd i'r afael â'r mater hwn yn cynnwys:

Tir yn cwrdd â'r môr

Mae'r parth arfordirol yn cysylltu amgylchedd y tir ag amgylchedd y môr. Felly mae angen ystyried y thema datrysiadau sy'n seiliedig ar natur ac addasu yn y parth arfordirol o'r Datganiad Ardal Morol ar y cyd â'r camau gweithredu a nodir yma; mae'r Datganiad Ardal Morol yn nodi gweithgareddau rheoli ac addasu yn y parth arfordirol fel meysydd sy'n darparu'r cyfleoedd mwyaf yn nhermau adeiladu gwydnwch ecosystemau a buddion ar draws ystod y nodau llesiant (yn nhermau mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd).

Allyriadau

Ar yr un pryd ag y gwelwyd cynnydd graddol mewn allyriadau byd-eang (CO2cyfatebol) dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, gwelwyd rhywfaint o ostyngiad yn allyriadau Cymru rhwng 1990 a 2016. Yng Nghymru, y sector lle y gwelir yr allyriadau mwyaf o bell ffordd yw busnes a diwydiant. Isod, ceir y pedwar sector yng Nghymru sy'n allyrru'r lefel uchaf o garbon:

  1. Busnes a diwydiant (33.6 tunnell fetrig o CO2e)

  2. Trafnidiaeth (5.72 tunnell fetrig o CO2e)

  3. Amaethyddiaeth/defnydd tir (5.61 tunnell fetrig o CO2e)

  4. Preswyl (4.25 tunnell fetrig o CO2e)

Yn ne-orllewin Cymru dros y cyfnod 2005-15, bu gostyngiad o ~30% yn allyriadau'r sectorau domestig a diwydiannol; dim ond gostyngiad o 5.2% a welwyd mewn allyriadau o drafnidiaeth yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal, mae allyriadau cyffredinol rhwng 2015 a 2016 wedi cynyddu 5%, sydd wedi'i yrru'n bennaf gan gynnydd mewn allyriadau o gynhyrchu pŵer.

 

Rhagamcanion hinsawdd

Oherwydd ei leoliad daearyddol, mae gan y DU un o'r hinsoddau mwyaf amrywiol yn y byd. Mae'r gwyntoedd sy'n ein cyrraedd o Fôr yr Iwerydd, de Ewrop, Ewrop gyfandirol a'r ardal begynol yn dod â thywydd tra gwahanol gyda hwy. Felly, mae ein tywydd yn gymharol anrhagweladwy o ddydd i ddydd.  Bydd effeithiau'r newid yn yr hinsawdd yn gwneud y patrymau hyn yn fwyfwy eithafol.

Yng Nghymru, gallwn ddisgwyl gweld mwy o law trwm, a mwy o lifogydd mewn rhai ardaloedd, yn ogystal â hafau poethach a sychach. Mae'r rhagamcanion hefyd yn rhagweld mwy o ddyddiau eithriadol o gynnes, gaeafau mwynach a gwlypach, llai o eira a barrug yn ogystal â lefelau dŵr daear is.

Crynodeb o ragamcanion:

  • Cynnydd yng nghyfartaledd tymereddau blynyddol, uchafswm tymheredd hafau ac isafswm tymheredd gaeafau

  • Gaeafau gwlypach â chawodydd glaw sydd â dwysedd uwch

  • Hafau sychach â chawodydd glaw byr sydd â dwysedd uchel

  • Mwy o 'gyfnodau poeth' sy’n digwydd yn amlach

  • Lefelau'r môr yn codi

Am fwy o wybodaeth gweler UKCP18

Peryglon hinsoddol

Pob pum mlynedd mae Llywodraeth y DU yn cynnal Asesiad Risg Newid Hinsawdd. Cyhoeddwyd yr ail adroddiad yn 2017 a rhoddodd ystyriaeth i'r cwestiwn canlynol:

“Ar sail y ddealltwriaeth ddiweddaraf o ran peryglon/cyfleoedd hinsoddol a bregusrwydd ac addasu ar gyfer y sefyllfa bresennol ac i'r dyfodol, pa flaenoriaethau dylid eu gosod ar gyfer Rhaglen Addasu Genedlaethol y DU nesaf a rhaglenni addasu'r gweinyddiaethau datganoledig (Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon)?”

Nodir y chwe maes sy'n peri'r risg fwyaf o ran newid yn yr hinsawdd yn y DU isod:

  • Peryglon llifogydd a newidiadau arfordirol i gymunedau, busnesau a seilwaith

  • Peryglon i iechyd, llesiant a chynhyrchiant yn sgil tymereddau uchel

  • Peryglon o ran prinder yn y cyflenwad dŵr cyhoeddus, ac ar gyfer amaethyddiaeth, cynhyrchu ynni a diwydiant

  • Peryglon i gyfalaf naturiol, gan gynnwys ecosystemau'r tir, yr arfordir, y môr a dŵr croyw, a phridd a bioamrywiaeth

  • Peryglon i'r diwydiant cynhyrchu a masnachu bwyd yn y wlad hon ac yn rhyngwladol

  • Plâu a chlefydau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, a rhywogaethau estron goresgynnol, a'u heffaith ar bobl, planhigion ac anifeiliaid (blaenoriaeth ymchwil)

Mae pob un o'r rhain, i raddau uwch neu raddau llai, yn berthnasol i dde-orllewin Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n diweddaru ei gynllun cyflenwi ar gyfer addasu i'r newid yn yr hinsawdd yn sgil y canfyddiadau hyn. Bydd angen ystyried y peryglon hyn a chamau gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r Datganiad Ardal, a mynd i'r afael â nhw fel rhan integredig o raglenni gwaith partneriaid. Ewch i gwefan Commitee on Climate Change

Tonnau storm yn torri dros amddiffynfeydd glan môr ac arwydd ffordd

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Rhan allweddol o’r gwaith o ddatblygu’r Datganiad Ardal hwn yw ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ac rydym yn dweud mwy am hyn yn yr adran nesaf. 

Yn y themâu eraill, rydym yn  nodi 'sut olwg sydd ar lwyddiant' fel cyfres o ddatganiadau yr hyn ddywedoch wrthym sy'n adlewyrchu'r consensws cyffredinol o'n sesiynau ymgysylltu. Efallai oherwydd yr ansicrwydd rydym yn ei wynebu, ni fu modd mireinio ein trafodaethau ynghylch yr argyfwng hinsawdd yn nhermau camau gweithredu, ac mae angen i ni gynnal trafodaeth bellach ar y testun hwn; gweler r adran ar ddiwedd y thema hon, sy'n rhoi manylion ynglŷn â sut y gallwch barhau i fod yn rhan o'r broses hon.

Er hynny, roedd yn amlwg i ni fod yn rhaid rhoi mwy o bwyslais ar newid yn yr hinsawdd yn y Datganiad Ardal gyda chydnabyddiaeth glir o'r argyfwng hinsawdd sy'n parhau. Dywedoch wrthym hefyd:

  • Os yw pobl am newid eu hymddygiad mae angen dealltwriaeth well arnynt o'r effeithiau lleol y bydd newid yn yr hinsawdd yn eu hachosi

  • Dylem, yn arbennig, wella ymwybyddiaeth o sut y bydd yr arfordir yn newid a'r ffordd y caiff y draethlin ei rheoli (gan gysylltu â'r Datganiad Ardal Morol)

  • Mae'n rhaid grymuso cymunedau (gan gynnwys unigolion a busnesau) i weithredu drostynt eu hunain wrth ymateb ac addasu i newidiadau yn yr hinsawdd

  • Rydym angen helpu pobl i ail-gysylltu â natur er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth well
  • Mae angen i gyrff cyhoeddus arwain drwy esiampl a dylent ystyried yr effeithiau ehangach (fel costau amgylcheddol) wrth brynu nwyddau a gwasanaethau, gan gefnogi busnesau lleol cynaliadwy lle bynnag y bo hynny'n bosibl

  • Mae angen i ni weithio gyda systemau a phrosesau naturiol i helpu i addasu i effeithiau newidiadau yn yr hinsawdd a’u lliniaru; er enghraifft, trwy archwilio datrysiadau rheoli llifogydd yn naturiol, cynyddu seilwaith gwyrdd mewn ardaloedd trefol a hyrwyddo gweithgareddau dal carbon trwy systemau naturiol, e.e. mawnogydd, coetiroedd, gwymon a morwellt

  • Mae angen system cynllunio datblygu gadarn arnom sy'n hyrwyddo dyluniadau effeithlon o ran ynni a lle caiff datblygu ar orlifdiroedd ei atal

  • Mae angen system drafnidiaeth gyhoeddus integredig arnom, a llwybrau diogel sydd â chysylltiadau da ar gyfer teithio llesol (e.e. cerdded a beicio )

  • Mae angen mwy o gefnogaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i gymunedau (ar raddfa fach a mawr), gan ddarparu buddion economaidd lleol trwy gadw elw yn lleol

  • Gallai mentrau fod yn fwy effeithiol, a darparu buddion gwell, pe byddai camau gweithredu wedi'u cydlynu'n well ar draws de-orllewin Cymru (e.e. dull ar y cyd o blannu glasbrennau yn lle'r coed a gollwyd o ganlyniad i glefyd coed ynn)

  • Wrth gymryd unrhyw gamau, dylem chwilio am gyfleoedd i ddarparu buddion lluosog, fel mwy o fynediad a chyfleoedd hamdden yn ogystal â chefnogi bywyd gwyllt

Twyni tywod a thraeth graean - Traeth Whiteford

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Wrth ddatblygu'r Datganiad Ardal hwn ein nod yw gweithio ar y cyd a chynrychioli safbwyntiau a syniadau ein holl randdeiliaid yn ne-orllewin Cymru.  Ein nod yw eich cynnwys chi i helpu i nodi'r peryglon allweddol rydym ni gyd yn eu hwynebu wrth reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn ogystal â'r cyfleoedd. 

Mae hyn wedi gofyn am ffordd wahanol o weithio.

Rydym wedi cynnal ystod eang o weithgareddau ymgysylltu, gan gynnwys gweithdai cynllunio wedi’u targedu gydag arbenigwyr dethol a gweithdai amlsector mwy.  Daeth llawer o bobl i’r olaf ac roeddent yn cynnwys cynrychiolwyr a gafodd eu hethol gan y cyhoedd, grwpiau cymunedol a chyrff anllywodraethol amgylcheddol, yn ogystal â swyddogion o'r sector cyhoeddus.  Rydym hefyd wedi sicrhau bod grwpiau cynrychioliadol (fel undebau ffermio, cymdeithasau genweirio ac ati) wedi'u cynnwys.  Mae'r sector busnes wedi'i gynrychioli'n bennaf gan ddiwydiannau mwy. 

Mae cymaint o sectorau gwahanol â phosib wedi'u cynnwys er mwyn sicrhau’r ystod ehangaf o safbwyntiau ac arbenigedd. 

Yn fewnol, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr sydd wrthi’n datblygu Datganiadau Ardal Canol De Cymru a Chanolbarth Cymru a’r Datganiad Ardal Forol i sicrhau bod camau gweithredu wedi'u cysylltu lle bo hynny'n briodol.  Yn benodol, mae'r parth arfordirol a'r amgylchedd morol yn bwysig iawn i ni yn ne-orllewin Cymru ac rydym yn cydnabod bod yr hyn sy'n digwydd ar y tir yn aml yn cael effaith ar y môr ac i'r gwrthwyneb.

Beth yw'r camau nesaf?


Mae angen eich cefnogaeth barhaus arnom er mwyn datblygu'r cyfleoedd a'r camau gweithredu a nodwyd gennym yn gynt yn yr adran hon. Byddwn yn parhau i gynnal ein sgyrsiau â chi o ran y ffordd orau o ddatblygu hyn – o ran cyflenwi ac o ran mireinio'r manylion lle mae angen rhagor o waith; mae hyn yn debygol o olygu gwaith â mwy o ffocws ar themâu penodol neu o amgylch ardaloedd daearyddol penodol (e.e. y dalgylchoedd â chyfleoedd).

Felly, rydym yn annog ein holl randdeiliaid, presennol a newydd, i gymryd rhan – ceir rhagor o fanylion ynglŷn â sut i wneud hyn yn yr adran nesaf.

Er bod angen cynnal sgyrsiau pellach, ceir cyfleoedd clir ar gyfer eu gweithredu nawr. Mae'r rhain yn cynnwys newid ein hymddygiad, lliniaru, addasu a rhoi'r camau gweithredu blaenoriaethol a nodwyd ar waith er mwyn cefnogi datganiad Argyfwng Hinsawdd a Natur Llywodraeth Cymru. Y meysydd y byddwn yn eu datblygu yw'r rhai a ganlyn:

Parhau i weithio gyda phartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, sefydliadau anllywodraethol a busnes wrth ddilyn dull cydlynol o fynd i'r afael â newidiadau yn yr hinsawdd. Mae hwn yn cynnwys:

  • Cynnal prosiect peilot i ddatblygu cynlluniau gwydnwch ar gyfer newidiadau yn yr hinsawdd ar gyfer cymunedau yn sir Gaerfyrddin a sir Benfro a rhannu arfer gorau er mwyn llywio'r camau gweithredu pellach a gymerwn ar draws de-orllewin Cymru

  • Arwain drwy esiampl a chydlynu gweithdy rhanbarthol ar gyfer partneriaid yn ne-orllewin Cymru gan hyrwyddo Prosiect Carbon Bositif Cyfoeth Naturiol Cymru (lleihau allyriadau carbon)

  • Cefnogi'r defnydd o ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i gymunedau lle bo hynny'n briodol yn ne-orllewin Cymru – e.e. tyrbinau gwynt, ffermydd solar ac ati

  • Gweithio gyda busnes a diwydiant i symud prosesau tuag at economi mwy cylchol (ailddefnyddio deunyddiau) a datgarboneiddio, megis trwy 'Glwstwr Diwydiannol De Cymru'

  • Gweithio gyda phartneriaid yn ne-orllewin Cymru i gytuno ar ein cyfraniad at ymrwymiad Cymru i fynd i'r afael â newidiadau yn yr hinsawdd (Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel 2019), a'i gyflawni

Sicrhau cynnydd yn nifer y dalfeydd carbon naturiol, gan gloi carbon o fewn y biomas mewn cynefinoedd fel mawndiroedd, glaswelltiroedd, coetiroedd, morwellt a gwymon. Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Cynyddu graddfa storio carbon ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru trwy ail-wlychu mawndiroedd drwy adfer systemau naturiol, er enghraifft fel y gwnaethpwyd yn fferm wynt Pen y Cymoedd

  • Gweithio gyda phartneriaid i nodi safleoedd priodol a phlannu coetiroedd newydd lle bo hynny'n briodol 

  • Cefnogi prosiectau i gynyddu mannau storio 'carbon glas', e.e. o fewn yr amgylchedd morol

(Gan gysylltu â'n thema rheoli tir yn gynaliadwy a Datganiad Ardal Morol)

Gweithio gyda phrosesau naturiol er mwyn lliniaru effeithiau newidiadau yn yr hinsawdd gan gynnwys llifogydd ac adegau o sychder

  • Dilyn dull integredig ar gyfer adfer afonydd a dalgylchoedd

  • Cynyddu gwydnwch ein hucheldiroedd er mwyn helpu i liniaru llifau uchel ac isel

  • Archwilio cyfleoedd ar gyfer datrysiadau sy'n seiliedig ar natur er mwyn ategu mesurau amddiffyn rhag llifogydd mwy traddodiadol, e.e. yn nalgylch Ffrwd Wyllt ger Port Talbot

(Gan gysylltu â'n thema rheoli tir yn gynaliadwy)

Gweithio gyda'r trydydd sector a’r sector addysg i ail-gysylltu pobl â natur ac annog newid mewn ymddygiad. Mewn ffyrdd fel:

  • Hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd. Beth sy'n ei achosi, beth yw'r effeithiau a beth yw'r cysylltiad â'n hargyfwng natur? Trwy fod yn ymwybodol, gall sefydliadau a chymunedau weithredu'n gadarnhaol ac ar frys

(Gan gysylltu â'r themâu Iechyd a Bioamrywiaeth)

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Rydym wedi ceisio ymgorffori'r egwyddorion sydd wrth wraidd rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ein Datganiad Ardal ar gyfer de-orllewin Cymru. Yr hyn sy’n sail i’w ddatblygiad yw ein hymgysylltiad cydweithredol ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, rhai presennol a rhai newydd.  Lle y byddem, yn draddodiadol, wedi datblygu cynllun ac wedyn ymgynghori arno , rydym wedi sicrhau cyfranogiad gan eraill trwy gydol y broses. Rydym wedi tynnu ar ein tystiolaeth a gwybodaeth ar y cyd er mwyn nodi'r materion allweddol rydym yn eu hwynebu yn ne-orllewin Cymru ac mae'r rhain wedi fframio'r pedair thema a'n gweledigaeth ar gyfer llwyddiant. Rydym wedi dechrau archwilio'r cyfleoedd a chamau gweithredu lle y gallwn gydweithio'n well, er mwyn cyflawni buddion hirdymor ac integredig. Ein her nawr yw cydweithio gyda phartneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau wrth droi'r syniadau a’r geiriau hyn yn weithredu. Nid oes gennym yr ateb i bopeth, ond byddwn yn dysgu ac addasu wrth i ni fynd rhagddi.

Ein gweledigaeth ar gyfer de-orllewin Cymru:

  • Ceir dealltwriaeth eang o'r argyfwng hinsawdd a natur (a'r cysylltiad rhyngddynt) gan arwain at ymddygiadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd a fydd yn parhau i'r tymor hwy

  • Mae cyrff cyhoeddus a busnesau'n cefnogi economi gylchol (er mwyn cael gwared ar wastraff ac ailddefnyddio adnoddau) a mabwysiadu arferion caffael cynaliadwy wrth ddewis cyflenwyr

  • Creu a gwella rhwydwaith o amgylcheddau dal carbon naturiol, gan gynnwys mawndiroedd, glaswelltiroedd, coetiroedd ac mewn dalfeydd 'carbon glas' (fel morfeydd heli, morwellt, a gwelyau gwymon a maerl)

  • Rydym ni gyd yn gweithio gyda phrosesau naturiol er mwyn helpu i liniaru ac addasu i effeithiau newidiadau yn yr hinsawdd

  • Mae system teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus sydd â chysylltiadau da, sy'n hawdd cael mynediad ati ac sy'n fforddiadwy, gan ddarparu opsiynau teithio diogel a chynaliadwy rhwng, ac o fewn, cymunedau

Sut all pobl gymryd rhan?


Dim ond dechrau'r daith yw’r thema hon wrth inni weithio gyda phobl i wella’r dull o reoli de-orllewin Cymru.  Os hoffech fod yn rhan o'r broses hon, cysylltwch â ni. Fel arall, anfonwch e-bost uniongyrchol atom yn: Southwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhowch wybod

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion
Diweddarwyd ddiwethaf