© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Ynglŷn â'r ardal hon


Mae ein moroedd a'n harfordiroedd yn cynnig nifer o adnoddau naturiol hynod werthfawr i bobl Cymru. Maent yn cynnig bwyd môr, tywod ar gyfer adeiladu, a ffordd o fasnachu ledled y byd i ni. Gall cynefinoedd morol ac arfordirol ein hamddiffyn rhag erydiad arfordirol a llifogydd. Gyda dros 60% o boblogaeth Cymru'n byw ac yn gweithio ar yr arfordir, mae diwydiannau morol, gan gynnwys twristiaeth, yn hynod bwysig i'n heconomi. Gall adnoddau tonnau, llanw a gwynt ein hamgylchedd morol hefyd ddarparu ynni glân i ni, sy'n hanfodol yn yr argyfwng hinsawdd sydd ohoni.

Coedwig gwymon tanddwr oddi ar arfordir De Orllewin Cymru.Llun gan Paul Kay

Mae'r ardal forol sy'n cwmpasu Cymru yn gartref i ystod amrywiol o rywogaethau a chynefinoedd.  Mae'r rhain yn amrywio o boblogaeth breswyl fwyaf y DU o ddolffiniaid trwynbwl ym Mae Ceredigion, a glannau tywodlyd a mwdlyd afon Hafren ac afon Dyfi, heb sôn am riffiau creigiog islanwol Benrhyn Llŷn a chlogwyni môr Sir Benfro. Mae'r adnoddau gwerthfawr hyn yn wynebu risg oherwydd y newid yn yr hinsawdd a phwysau eraill ac mae angen eu rheoli gyda sensitifrwydd os ydym am iddynt ffynnu.

Sêl lwyd yn gorwedd ar y traeth gyda'i chi bach ym Mharth Cadwraeth Forol Skomer.Llun gan tim Skomer Marine Conservation Zone

Mae'n harfordir yn brolio lleoliadau eiconig fel Pen Pyrod ac afon Menai. Mae'r arfordir yn lle hamddenol a phleserus ar gyfer pobl leol yn ogystal â thwristiaid. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr troed neilltuedig ar hyd pob rhan o’i harfordir – yr holl 1,440 km ohono! Canfuwyd bod treulio amser ar yr arfordir ac yn y môr yn cael nifer o fanteision ar gyfer llesiant corfforol a meddyliol a chanfuwyd bod pobl sy'n byw yn agos at y môr yn ystyried eu hun yn fwy iach.

Teulu yn chwarae ar y traeth ar fachlud haul ym Mae Tor, GŵyrLlun gan David Morgan

Yn amlwg, mae ein moroedd yn bwysig i ni am nifer o resymau. Mae'r modd yr ydym yn rheoli'r amgylchedd morol yn eithaf gwahanol i hwnnw ar dir. Dyma pam y datblygwyd Datganiad Ardal sy'n canolbwyntio'n benodol ar ein moroedd. Yn ystod y degawd diwethaf, bu gwaith i ddatblygu deddfwriaethau a pholisïau newydd ar gyfer yr ardal forol – fel Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol, Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir y DU a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Nod hyn i gyd yw gwella'r gwaith o amddiffyn a rheoli glannau ledled Cymru, y DU a’r tu hwnt.

Llun agos o bolypau anemone Jewel yn Ne Orllewin CymruLlun gan Paul Kay

Yn fyd-eang, rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd ac ym myd natur. Beth ydy hyn yn golygu ar gyfer yr arfordiroedd a moroedd o gwmpas Cymru? A all ein hardal forol helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn? Yn fwyfwy, rydym yn edrych i'r amgylchedd morol am ffynhonnell o ynni glân ac adnewyddadwy. O ganlyniad i fygythiad rhagor o stormydd a lefelau'r môr yn codi, mae angen i ni addasu i arfordir sy'n newid. Mae angen i ni ddeall sut y gall y newid yn yr hinsawdd effeithio ar ein bywyd gwyllt yn ogystal â'r busnesau sy'n dibynnu ar yr ardal forol.

Dyma rai o'r materion rydym wedi bod yn eu harchwilio gyda'n partneriaid wrth ddatblygu'r Datganiad Ardal Forol cyntaf hwn. Rydym yn gobeithio y bydd y broses yn:

  • galluogi dealltwriaeth gyffredin ynglŷn â'r hyn sy'n bwysig am yr amgylchedd morol a beth yw ei gyflwr presennol

  • adeiladu ar gydberthnasau gweithio da ac ymddiriedaeth sefydledig yn Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill sydd â diddordeb yn yr ardal forol

  • sefydlu dull mwy cydgysylltiedig ar yr arfordir

  • galluogi teimlad o berchenogaeth/cyfrifoldeb ar y cyd ar gyfer ardal forol Cymru

  • arwain at gamau gweithredu ar y cyd a hirdymor i gyflenwi buddion lluosog sy'n mynd i'r afael â materion a chyfleoedd cytunedig / a gydnabyddir

Mae'r Datganiad Ardal hwn yn cynrychioli cychwyn proses tymor hwy yn unig ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Hyd yn hyn, rydym wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid strategol sydd eisoes yn bodoli, y mae'r rhan fwyaf ohonynt â diddordeb mewn arfordiroedd a moroedd Cymru gyfan. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli bod gan nifer o grwpiau ac unigolion eraill ddiddordeb yn ein hardal forol hefyd. Mae gan bawb ran i'w chwarae mewn sicrhau bod gennym foroedd iach, cynhyrchiol a gwydn. Rydym felly yn bwriadu adeiladu ar ein trafodaethau hyd yn hyn i ymgysylltu â chynulleidfa ehangach, gan gynnwys cymunedau lleol.

Rydym wedi nodi'r camau gweithredu canlynol ar draws y Datganiad Ardal Forol:

  • cefnogi gwaith a all helpu i 'ailgysylltu' pobl â moroedd Cymru

  • ymgysylltu ar lefel leol i ymchwilio i'r hyn y mae pobl yng Nghymru yn ei werthfawrogi am ein harfordiroedd a'n moroedd

  • gweithio'n agosach drwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i nodi a mynd i'r afael â materion a chyfleoedd morol ac arfordirol

  • codi proffil ardaloedd morol ac arfordirol a'u rôl wrth gefnogi llesiant lleol

Themâu y Datganiad Ardal Morol 

Mae'r camau gweithredu rydym wedi'u nodi gyda'n partneriaid yn canolbwyntio ar dair thema. Cliciwch ar y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth:

Mapiau o’r ardal

Sylwch nad yw ein mapiau’n hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol o fathau eraill. Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.

Ardaloedd gwarchodedig Ardal Morol Cymru (PDF)

  • Gwarchodfeydd Natur Lleol
  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • Gwlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
  • Parc Cenedlaethol

Eich adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf