Pam y mae cerdded yn ardderchog ar gyfer eich iechyd

Mis Mai yw Mis Cerdded Cenedlaethol, sy’n annog pob un ohonom i fynd am dro ar gyfer ein hiechyd a’n hapusrwydd. Yn y blog hwn, mae Steven Meaden, ein cynghorydd iechyd, yn rhoi 10 rheswm pam y mae cerdded yn wych!

Manteision cerdded

Os am daith gerdded fer ymlaciol neu daith hirach – mae cerdded yn ffordd wych i fwynhau’r awyr agored ac yn ffordd berffaith i archwilio mannau newydd.  

Dydyn ni ddim o reidrwydd yn sôn am heicio i fyny mynyddoedd (oni bai eich bod chi'n mwynhau hynny!) – ond ymarfer corff ysgafn, effaith isel sy’n rhwydd, am ddim ac ar gael i bawb.

1. Mae cerdded yn cryfhau eich calon

Lleihau eich risg o gael clefyd y galon a strôc drwy gerdded yn rheolaidd. Mae’n ymarfer cardio gwych, yn gostwng lefelau colesterol LDL (drwg) tra’n cynyddu lefelau colesterol HDL (da).  Mae’r Gymdeithas Strôc yn dweud bod taith gerdded egnïol 30 munud bob dydd yn helpu i atal a rheoli’r pwysau gwaed uchel sy’n achosi strôc, gan leihau’r risg hyd at 27 y cant.

2. Mae cerdded yn gostwng y risg o afiechyd

Mae arfer cerdded rheolaidd yn torri’r risg o ddiabetes math 2 oddeutu 60 y cant, ac rydych 20 y cant yn llai tebygol o ddatblygu cancr y coluddyn, y fron neu’r groth gyda hobi corfforol gweithgar fel cerdded.

3. Mae cerdded yn eich helpu i golli pwysau

Byddwch yn llosgi tua 75 calori wrth gerdded ar gyflymder o 2mya am 30 munud. Wrth gynyddu eich cyflymder i 3mya, byddwch yn llosgi 99 calori, tra bo 4 mya yn llosgi 150 calori. Ceisiwch gynnwys taith gerdded fer yn eich trefniadau dyddiol, a byddwch yn colli pwysau ymhen dim amser. 

4. Mae cerdded yn helpu rhwystro dementia

Mae pobl hŷn sy’n cerdded chwe milltir neu fwy bob wythnos yn fwy tebygol o osgoi crebachiad yr ymennydd a chadw eu cof wrth i’r blynyddoedd basio. Gan bod dementia yn effeithio ar un person ymhob 14 dros 65 oed ac un ymhob chwech dros 80, credwn bod hynny’n syniad eithaf da.

5. Mae cerdded yn tynhau’r coesau, y pen ôl a’r bol

Mae taith gerdded egnïol a rheolaidd yn gwella diffiniad croth y goes, y cwads a llinynnau’r garrau ac yn helpu codi cyhyrau’r pen ôl. Mae cerdded ar hyd y bryniau yn fwy effeithiol fyth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r osgo cywir er mwyn tynhau cyhyrau’r stumog a’r wast.   

6. Mae cerdded yn rhoi hwb i fitamin D

Dylai bob un ohonom dreulio mwy o amser yn yr awyr agored. Mae llawer o bobl yn y DU yn brin o fitamin D, ac mae hynny’n effeithio ar bethau pwysig fel iechyd eich esgyrn a’n systemau imiwnedd. Mae cerdded yn ffordd berffaith i fwynhau’r awyr agored tra’n sicrhau eich bod yn cael digon o fitamin D.

7. Mae cerdded yn rhoi egni

Byddwch yn cyflawni mwy os oes gennych fwy o egni, ac mae mynd am dro egnïol yn un o’r dulliau naturiol gorau i hybu egni. Mae’n hybu cylchrediad ac yn cynyddu’r cyflenwad ocsigen i bob cell yn y corff. Bydd hynny’n eich helpu i deimlo’n fwy effro. Beth am geisio cerdded yn ystod eich awr ginio er mwyn cyflawni mwy yn y prynhawn.

8. Mae cerdded yn eich gwneud yn hapus

Mae’n wir - mae ymarfer yn gwella eich hwyliau. Mae astudiaethau’n dangos bod cerdded sionc yr un mor effeithiol â thabledi gwrth iselder mewn achosion o iselder bach i gymedrol, gan ryddhau endorffinau sy’n gwneud i chi deimlo’n dda, tra’n lleihau straen a gor-bryder. Felly, mae cerdded yn hanfodol os am fwynhau iechyd meddwl positif. 

9. Mae cerdded yn lleddfu pwysau gwaith

Mae cerdded yn rhoi amser i chi feddwl. Mae gadael yr amgylchedd llawn straen, anadlu’r aer a theimlo eich corff yn symud yn ffordd naturiol o leddfu pwysau.  Bydd cerdded mewn parc amser cinio yn hytrach na cherdded ar balmentydd yn lleihau gor-bryder ac yn gwella perfformiad eich cof wrth weithio.

10. Mae cerddwyr yn byw yn hirach

Dangosodd astudiaeth o 8000 o bobl bod cerdded cyn lleied â dwy filltir y dydd yn torri risg marwolaeth bron yn ei hanner. Roedd risg marwolaeth y cerddwyr o gancr yn amlwg yn is. Mae astudiaethau eraill wedi dod i’r un casgliadau – os ydych yn dal ati i gerdded, byddwch yn gwella eich siawns o fyw bywyd hirach a iachach. 

Mae cerdded am 30 i 60 munud bob dydd yn un o’r pethau gorau y gallwch ei wneud i’ch corff, meddwl ac ysbryd.  Pam na cheisiwch chi wneud amser i gerdded bob dydd? Mwynhewch eich parciau lleol a mannau gwyrdd , ewch am dro amser cinio , a cherdded teithiau byr o hyd at ddwy neu dair  milltir yn lle neidio yn y car!

Cerddwch gyda ni

Mae llawer o’r coetiroedd a’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yr ydym yn eu rheoli yn croesawu cerddwyr. Ceir llwybrau wedi’u harwyddo drwy’r mannau arbennig hyn yn ogystal â chyfleusterau fel canolfannau ymwelwyr a phaneli gwybodaeth i’ch helpu i fanteisio’n llawn ar eich ymweliad. 

Ewch i Lleoedd i ymweld â hwy i gynllunio eich taith gerdded nesaf gan ddefnyddio ein map rhyngweithiol.

Ysbrydoliaeth i’ch cael chi allan i gerdded!

Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth o ran ble i fynd, cymerwch gipolwg ar ein ffefrynnau dethol yn ein teithiau cerdded lliwiau’r gwanwyn.

Neu os ydych yn chwilio am lwybrau hygyrch sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a chadeiriau gwthio, ewch i’n tudalennau gwefan ymweliadau hygyrch.

Ac os ydych yn ffansïo taith hirach beth am roi cynnig ar Lwybr Arfordir Cymru neu fynd am dro ar un o Lwybrau Cenedlaethol Cymru.

Os ydych yn mynd allan i grwydro unrhyw adeg o’r flwyddyn, darllenwch y Côd Cefn Gwlad a’r Cod Cerdded Cŵn – mae’r ddau yn llawn gwybodaeth a fydd yn eich helpu i gael profiad pleserus a diogel.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru